<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:51, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Papur Gwyn yn ymgynghoriad dilys. Felly, mae’n wir mai ei unig bwrpas yw er mwyn i bobl fynegi eu barn, ac os nad ydynt yn cefnogi’r argymhellion, i feddwl am ddewisiadau eraill i wella ansawdd a dull llywodraethu a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, nid y Llywodraeth yn dweud, ‘Rydym yn gofyn i chi, ond rydym eisoes wedi penderfynu’ yw hyn. Mae’n ymgynghoriad dilys.

Ar y pwynt ynglŷn ag a oes achos bellach dros gael adolygiad annibynnol o reolwyr a rheolaeth o fewn y gwasanaeth iechyd, byddai’n rhaid i mi gael fy mherswadio mai dyna’r peth iawn i’w wneud, ond os ydych yn credu bod achos cryf dros wneud hynny, byddwn yn hapus i ystyried sylwadau gennych ar sut y gall hynny ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn sydd gennym eisoes ar waith, ac yn ychwanegol at y disgwyliadau proffesiynol y gallem ac y dylem eu cael yn briodol mewn perthynas ag uwch-reolwyr y GIG a gweithrediad y byrddau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol.