Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ail arolwg profiad cleifion canser Cymru unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o gleifion canser heb weithiwr allweddol o hyd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, nid oes gan 14 y cant o gleifion weithiwr allweddol o hyd, a dywedodd mwy na chwarter y cleifion ei bod yn aml yn anodd cysylltu â’r gweithiwr allweddol. Mae’r arolwg hefyd wedi tynnu sylw at y manteision a brofodd rhai cleifion o gael nyrs glinigol arbenigol, gyda’r rhan fwyaf o’r 81 y cant o gleifion a oedd ag un yn datgan bod eu triniaeth wedi gwella’n fawr o ganlyniad i hyn. O ganlyniad, mae Macmillan Cymru wedi galw am fynediad at nyrs glinigol arbenigol i bob person sydd â chanser yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cefnogi’r farn hon ac a ydych yn cytuno y dylai’r nyrs glinigol arbenigol weithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer cleifion canser yng Nghymru?