Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rydym yn sicr eisiau i bob claf gael nyrs glinigol arbenigol lle bo’n briodol ar gyfer darparu gofal. Mae’r her ynglŷn ag ai’r nyrs glinigol arbenigol yw’r gweithiwr allweddol, rwy’n credu, yn wahanol, oherwydd, i rai pobl, nid oes raid mai’r nyrs glinigol arbenigol sy’n gweithredu fel gweithiwr allweddol, er mai’r nyrs glinigol arbenigol, yn ymarferol, yn y mwyafrif helaeth o achosion, sy’n cyflawni’r rôl honno. Mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yw eu gweithiwr allweddol. Yn yr arolwg cleifion canser blaenorol, yn 2013, 66 y cant o bobl oedd yn gwybod pwy oedd eu gweithiwr allweddol dynodedig. Yn yr arolwg hwn, mae’r ffigur wedi codi i 86 y cant. Unwaith eto, mae hwn yn ymrwymiad sylweddol. Mae dros 6,700 o staff wedi rhoi eu hamser i roi eu barn ar ystod eang o’u profiad eu hunain o ofal canser, ac o ganlyniad i’r arolwg eang hwn, rydym yn gallu deall cyflwr ein gwasanaethau presennol, y meysydd lle rydym wedi gwella, ac yr un modd, y meysydd lle mae angen i ni wella ymhellach yn y dyfodol.