<p>Anafiadau sydd wedi’u Hachosi gan Frathiadau Cŵn</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:59, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth honno. Deallaf gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fod 1,750 o ddyddiau wedi cael eu colli gan staff y Post Brenhinol ar draws y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn. Mae staff post wedi dioddef rhai anafiadau ofnadwy, yn cynnwys toriadau esgyrn, niwed tendonau, a thorri coesau neu freichiau i ffwrdd hyd yn oed. Felly rwy’n ddiolchgar fod gennym y ffigurau ar gyfer Cymru gyfan, oherwydd a fyddai’n cytuno bod cael y ffigurau gan y gwasanaeth iechyd yn helpu i gyfrannu at asesu’r darlun cyffredinol a llywio’r farn am y camau sydd angen eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon?