Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wel, mae’n enghraifft dda o’r ffaith fod enghreifftiau o ragoriaeth go iawn ym mhob un o’n byrddau iechyd, a’r cymhelliant yw darparu mwy o ofal yn nes at adref, sy’n golygu nad oes angen i bobl aros mewn ysbyty’n ddiangen. Unwaith eto, y pwynt yw bod meysydd gweithgaredd sylweddol a fyddai wedi cael eu cyflawni gan feddygon yn flaenorol bellach yn cael eu cyflawni gan staff gwahanol. Mae cael ymyrraeth a arweinir gan nyrsys yn enghraifft dda, ac yn enghraifft arall o’r math o ddiwygio rydym eisiau ei weld yn ein gwasanaeth, wedi’i gyflwyno fesul cam, diwygio nad yw’n ymwneud â brics a morter, ond â sut y gwnawn ddefnydd gwell o’n staff mewn gwahanol leoliadau. Rwy’n credu mai dyna rydym angen ei wneud, ac mae disgwyliad ymhlith y cyhoedd, ac rwy’n credu bod yna awydd gwirioneddol ymhlith y staff eu hunain i lunio modelau gofal newydd i wneud yn union hynny.