Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Yn ddiddorol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda phobl yn y gydweithrediaeth yng nghanolbarth Cymru, gyda Phrifysgol Aberystwyth a chydag ysbyty Bronglais, ond hefyd, yr wythnos diwethaf, mynychais y diwrnod ymchwil ac arloesedd yng ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a oedd yn edrych ar ystod o weithgareddau ymchwil ac arloesedd ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Ceir arwydd clir iawn gan y Llywodraeth hon ein bod yn disgwyl i’r gwaith hwnnw barhau, gan fod nifer o bobl eisiau cyflawni gweithgareddau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod y bydd yn rhaid iddynt weithio, i bob pwrpas, mewn ardal drefol neu wasanaeth dinesig, ond ceir llawer o bobl eraill sydd am weithio’n benodol mewn meddygaeth wledig. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw ein gwasanaeth ond yn darparu’r gwasanaethau y mae pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn awyddus i’w cyflawni, ond ein bod yn deall y dystiolaeth o’r ansawdd gorau sydd ar gael ynglŷn â sut i gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw’n ddiogel mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi’r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud i fyw mewn cymunedau gwledig er mwyn iddynt gael gofal iechyd o ansawdd uchel hefyd.