3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran ymchwil ac arloesedd clinigol yn y GIG yng Nghymru? OAQ(5)0199(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Mae ymchwil ac arloesedd yn feini prawf allweddol ar gyfer dynodiadau byrddau iechyd prifysgol yng Nghymru ac yn rhan o fframwaith cynllunio GIG Cymru. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo dros £29 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i barhau â’n buddsoddiad mewn ymchwil o ansawdd uchel ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg o fewn y GIG.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ganolfan arloesi ymchwil clinigol yn Ysbyty Gwynllyw yn enghraifft wych o fuddsoddiad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan sy’n caniatáu i ymchwilwyr a staff gymryd rhan mewn ymchwil arloesol mewn meysydd sy’n cynnwys dementia, diabetes a chanser. Y llynedd, cymerodd dros 17,000 o gyfranogwyr ran mewn bron i 480 o astudiaethau ymchwil clinigol, sy’n helpu ymchwilwyr i ddatblygu triniaethau newydd ac yn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y rheini’n nes at adref. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda’r ganolfan, byrddau iechyd ac eraill i sicrhau bod cleifion, gofalwyr a staff yn cael eu cefnogi a’u hannog i gofleidio ymchwil yn llawn a’i wneud yn weithgaredd craidd o fewn y GIG yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mwynheais ein hymweliadau—wel, fy ymweliadau i—â’ch etholaeth i gyfarfod â staff bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan. Fe’m trawyd gan yr ystod o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnal. Mae hwnnw’n rhan o’r £21 miliwn rydym yn ei ariannu drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r £8 miliwn ychwanegol, pan fyddaf yn cyfeirio at y £29 miliwn, yn dod o’r gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg. Ceir amrywiaeth o lwybrau gwahanol i gyrraedd yno. Ond mewn gwirionedd, mae hyn yn bwysig iawn, nid yn unig i gael staff sy’n ymroddedig ac sydd eisiau deall beth arall y gallant ei wneud, ond hefyd i wella canlyniadau ac ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu mewn gwirionedd. Fel y dywedais, mae’n rhan allweddol o ddynodiad a statws bwrdd iechyd prifysgol. Mae hefyd yn rhan o’r meini prawf ar gyfer cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo’r cynllun tymor canolig integredig. Felly, mae hwn wedi’i ymgorffori yn ein fframwaith cynllunio, ac rwy’n disgwyl ei weld yn ein cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion, yn eu harfarniadau, er mwyn sicrhau bod ymchwil ac arloesedd yn rhan allweddol o’r hyn y mae’r byrddau iechyd yn ei gyflawni heddiw mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella gofal iechyd ar gyfer y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn bleser mynd gyda chi i seremoni torri’r dywarchen y ganolfan gofal critigol newydd, a elwir bellach yn ysbyty prifysgol y Faenor, ddydd Llun yng Nghwmbrân. Fe drydarais lun da ohonom, a chi’n palu’r sylfeini â rhaw. Mae’r ysbyty newydd wedi bod yn yr arfaeth ers amser hir, fel y gwyddom, a chi oedd y Gweinidog a gafodd y fraint o dorri’r dywarchen—ni ddaeth sawl un o’ch rhagflaenwyr i ben â gwneud hynny. Ond a fyddech yn cytuno ei fod yn ymwneud â mwy na’r adeilad? Rydym am weld bod yr ysbyty newydd yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth ac arloesedd o safon fyd-eang. Rwy’n gwybod iddi gael ei hystyried ar un adeg fel canolfan bosibl ar gyfer niwrowyddorau, ond rwy’n meddwl bod hynny wedi mynd ar chwâl. Felly, pa waith rydych yn ei wneud, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, i sicrhau, pan fydd yr ysbyty newydd yn agor yn y pen draw—mewn ychydig flynyddoedd, gobeithio—y bydd yn ysbyty o safon fyd-eang, yn rhywbeth y gall pobl de Cymru fod yn wirioneddol falch ohono, ac a fydd yn denu’r staff meddygol gorau a mwyaf disglair?
Rwy’n credu y dylai wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i ailfodelu gofal iechyd ar draws ardal Gwent a thu hwnt. Mae i fod i agor, fel y gwyddoch, yn ystod gwanwyn 2021, pan ddylai ysbyty prifysgol y Faenor fod ar agor ac yn weithredol. O ran y cwestiwn a ofynnodd Jayne Bryant a’r pwynt a wnewch, mae’n bwysig deall nad yw’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn ymwneud yn unig â darparu gofal iechyd rhagorol—rhaid i ymchwil ac arloesedd ddigwydd ochr yn ochr â hynny a thrwy hynny yn ogystal. Felly, rwy’n disgwyl y bydd ffocws manwl ar ymchwil ac arloesedd pan fydd yr ysbyty’n agor, nid ar adeg yr agoriad yn unig ond drwy gydol y cyfnod o amser, gan fod hynny’n rhan o’r broses o ddenu a chadw staff yno.
Felly, er enghraifft, mae’r camau a roddwyd ar waith eisoes i gael uned strôc hyperaciwt, a leolir ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Gwent—mae llawer o hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chael model gwasanaeth gwahanol sydd wedi caniatáu iddo ddenu, recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel na fyddai wedi dod fel arall yn rhan o hen fodel o ofal. Dylai’r gwaith ymchwil sydd eisoes ar y gweill yno gael ei wneud yn rhan o fodel newydd o ddarparu gofal iechyd hefyd. Felly, i mi, mae’n rhan allweddol o’r hyn rydym yn buddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol, nid brics a morter yn unig.
Ysgrifennydd Cabinet, beth ydych chi’n ei wneud i hybu ymchwil clinigol mewn iechyd gwledig yma yng Nghymru?
Yn ddiddorol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda phobl yn y gydweithrediaeth yng nghanolbarth Cymru, gyda Phrifysgol Aberystwyth a chydag ysbyty Bronglais, ond hefyd, yr wythnos diwethaf, mynychais y diwrnod ymchwil ac arloesedd yng ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a oedd yn edrych ar ystod o weithgareddau ymchwil ac arloesedd ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Ceir arwydd clir iawn gan y Llywodraeth hon ein bod yn disgwyl i’r gwaith hwnnw barhau, gan fod nifer o bobl eisiau cyflawni gweithgareddau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod y bydd yn rhaid iddynt weithio, i bob pwrpas, mewn ardal drefol neu wasanaeth dinesig, ond ceir llawer o bobl eraill sydd am weithio’n benodol mewn meddygaeth wledig. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw ein gwasanaeth ond yn darparu’r gwasanaethau y mae pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn awyddus i’w cyflawni, ond ein bod yn deall y dystiolaeth o’r ansawdd gorau sydd ar gael ynglŷn â sut i gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw’n ddiogel mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi’r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud i fyw mewn cymunedau gwledig er mwyn iddynt gael gofal iechyd o ansawdd uchel hefyd.