Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rwy’n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod arolwg cenedlaethol Cymru wedi canfod bod 39 y cant o’r ymatebwyr yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu, ac roedd 62 y cant i gyd yn anfodlon â’r gwasanaeth a ddarperir gan y GIG yng Nghymru. Ers 2004, fel cyfran o gyllid y GIG, mae ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10 y cant o’r cyfanswm i 8 y cant—mae hwnnw wedi mynd i fyny yn ddiweddar, rhaid cyfaddef—ond er mwyn cyrraedd safle boddhaol, mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud y dylai fod yn 12 y cant o’r hyn rydym yn ei wario ar y GIG ar hyn o bryd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i ni o’r ymateb y byddai’n ei roi i Gymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â’r ffigur hwnnw?