Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch am y cwestiwn. Er bod Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â diogelwch pobl ifanc yn y ddalfa, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r bwrdd cyfiawnder ieuenctid sydd â chyfrifoldeb am hyn. Rwyf wedi ymweld â charchar y Parc o’r blaen a byddaf yn dwyn y mater y mae’r Aelod yn gofyn yn ei gylch i sylw Gweinidog y DU.