Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch. Gall awdurdodau lleol orfodi camau gweithredu mewn perthynas â strwythurau peryglus drwy Ddeddf Adeiladu 1984. Defnyddir Adran 77, ‘Adeiladu peryglus’, pan fo posibilrwydd o strwythur peryglus; defnyddir adran 78, ‘Adeiladu peryglus—camau argyfwng’, pan fo angen gweithredu ar unwaith i gael gwared ar y perygl.