Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Nid dyma’r amser i wleidydda. Mae dyn wedi marw, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’r gymuned yn Sblot. Rwy’n meddwl, fodd bynnag, fod yn rhaid gofyn cwestiynau ynglŷn â sut y digwyddodd ac a oes unrhyw adeiladau eraill yng Nghaerdydd mewn cyflwr peryglus. Ar ran fy ngrŵp, hoffwn gydymdeimlo â’r teulu eto a chynnig unrhyw gymorth y gallwn ei roi, ac mae hynny’n cynnwys grŵp cyngor Caerdydd yn ogystal.