Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o wneud y datganiad hwn heddiw, i rannu’r hyn a ddysgwyd gennym yn dilyn ein hymweliad diweddar â Chaeredin i drafod profiad yr Alban o ddiwygio ariannol.
Yn ystod ein hymweliad, buom ni’n cwrdd â chynrychiolwyr o Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban, a Chyllid yr Alban. Un o brif swyddogaethau’r Pwyllgor Cyllid yw ystyried y gyllideb ddrafft, a sut y bydd datganoli cyllidol i Gymru yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn gwneud hyn. Bydd yr Aelodau yn gwybod bod y Rheolau Sefydlog diwygiedig newydd, a’r protocol cysylltiedig, wedi cael eu cytuno eisoes ar gyfer y gyllideb eleni, sef y gyllideb gyntaf i fod yn rhan o’r trefniadau ariannu newydd. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor hefyd yn ystyried proses y gyllideb ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol.
Yn yr Alban, lle mae proses y gyllideb ddeddfwriaethol eisoes ar y gweill, sefydlwyd grŵp adolygu’r gyllideb, i werthuso proses y gyllideb yn yr Alban, gan edrych yn benodol ar gysylltu â’r cyhoedd, craffu yn ystod y flwyddyn, fframwaith cyllidol, cyllidebau aml-flwyddyn, a chraffu sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Roedd aelodau grŵp adolygu’r gyllideb yn yr Alban yn cynnwys swyddogion o Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ynghyd ag arbenigwyr cyllid cyhoeddus allanol, gan gynnwys academyddion a rhanddeiliaid blaenllaw sydd â phrofiad helaeth o drefniadau cyllidol a chyllidebol. Cyhoeddodd y grŵp ei adroddiad ar ddiwedd mis Mehefin, ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion, a oedd â’r nod o wella’r broses o graffu ariannol yn yr Alban. Rwy’n gobeithio y bydd eu profiad yn yr Alban, a’r adroddiad hwn, yn ddefnyddiol wrth i ni baratoi i weithredu ein trefniadau newydd, ac wrth i ni symud ymlaen i ystyried proses newydd bosib hefyd.
Mae sefydlu’r grŵp hwn yn yr Alban yn dangos pa mor bwysig yw datblygu arbenigedd mewn trefniadau ariannol datganoledig, a bydd yn hanfodol bod yr un lefel o gefnogaeth gan arbenigwyr yn cael ei rhoi i ddatblygu ein trefniadau craffu ni i sicrhau ein bod yn gadarn ac yn effeithiol.
Mae datganoli cyllidol a newidiadau yn y Cynulliad yn gyfnod cyffrous a heriol i Gymru. Fel pwyllgor, bydd diddordeb mawr gennym yn y paratoadau ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Gan fod yr Alban eisoes wedi sefydlu ei sefydliad cyfatebol sydd wedi bod ar waith ers 2015, teimlwn ei bod yn bwysig dysgu o’u profiad yno, er mwyn sicrhau y ceir trosglwyddiad rhwydd pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn weithredol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.
Clywsom gan Gyllid yr Alban pa mor bwysig yw ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r wefan a hyrwyddo ei rôl. Arweiniodd yr ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid wrth ddylunio’r rhyngwyneb ar gyfer y system dreth ar-lein at nifer fawr o gyflwyniadau digidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo eisoes i sicrhau bod y rhyngweithio hwn â rhanddeiliaid yn rhan o’r broses, ond nid yw’n rhy hwyr i ddysgu o brofiad yr Alban ychwaith, i sicrhau bod unrhyw broblemau, waeth pa mor fach, yn cael eu datrys cyn mis Ebrill nesaf.
Buom ni hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Gomisiwn Cyllidol yr Alban, sydd wedi bod yn gweithredu ar sail statudol ers mis Ebrill eleni. Mae cyfrifoldebau’r comisiwn yn cynnwys llunio rhagolygon annibynnol ar gyfer yr Alban, gan gynnwys rhagolygon o refeniw treth, gwariant ar nawdd cymdeithasol a chynnyrch domestig gros ar y tir. Dysgwyd y bydd y comisiwn a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR, felly—yn darparu rhagolygon cyllidol ar gyfer yr Alban, ond y bydd y comisiwn yn defnyddio data sy’n benodol i’r Alban yn hytrach na data’r Deyrnas Gyfunol a ddefnyddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR. Dylai hynny sicrhau bod modelau rhagweld y comisiwn yn fwy cywir.
Yn hytrach na sefydlu corff o’r fath yma, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi penodi tîm o Brifysgol Bangor i graffu ar ei rhagolygon ar y gyllideb. Ymddengys mai un wers allweddol a ddaw o’r Alban yw bod angen datblygu data penodol ac amserol, ar lefel Cymru, y tu hwnt i’r data a ddarperir ar lefel y Deyrnas Gyfunol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn bersonol, rwyf hefyd yn credu y bydd angen corff fel Comisiwn Cyllidol yr Alban arnom yn y pen draw, fel y bydd datganoli trethi yn cael ei roi ar waith. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar iawn, yn dweud y bydd sefydlu comisiwn o’r fath yn un o’r dewisiadau y mae’n ei ystyried. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych yn fanwl ar y mater hwn pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft.
Mae’r gwaith hwn ar ddatganoli ariannol yn gyfnod cyffrous i’r Pwyllgor Cyllid, a gobeithio i’r Cynulliad cyfan, a gobeithio y gallwn ddysgu o brofiad yr Alban i sicrhau bod ein trefniadau craffu mor gadarn ag y gallant fod. Diolch yn fawr.