Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Steffan Lewis. Yn gyntaf oll, jest ar y pwynt olaf yna, rwy’n cytuno’n llwyr bod angen data llawer mwy amserol, llawer mwy priodol i Gymru, a llawer mwy cadarn, er mwyn llunio rhai o’r penderfyniadau rydym yn gofyn i’r Llywodraeth eu gwneud, ac wedyn, mewn tro, y Cynulliad i’w cymeradwyo. Rwy’n gobeithio y bydd y broses mae’r Llywodraeth eisoes wedi’i wneud, yn comisiynu Prifysgol Bangor, yn dechrau ar hynny. Bydd e yn gwybod, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, ein bod ni ar fin cychwyn edrych ar y gyllideb ddrafft ein hunain, a byddwn yn gwahodd i mewn nifer o fudiadau a phobl sydd yn cymryd y trosolwg yma o gyllidebau, nid jest yng Nghymru, ond yn fwy rhyngwladol yn ogystal, ac efallai y byddwn ni’n dysgu rhai arferion da o hynny. Beth sydd yn bwysig, rwy’n meddwl, yw ein bod ni’n barod ar gyfer yr her sydd yn ein hwynebu ni, yn enwedig pan ddaw’r dreth incwm, ac nad ydym yn pwyso ar y rhwyfau, gan feddwl, ‘Wel, fe ddaw yr wybodaeth pan mae’n barod’. Mae’n rhaid i ni fod ar flaen y gad. Mae’r rhaid i ni, mewn ffordd, torri tir newydd, a thir anodd o bryd i’w gilydd.
A gaf i droi at y pwynt ehangach roedd e’n ei wneud ynglŷn â’r cyllidebau cyfranogol? Mae’n iawn i atgoffa’r Cynulliad am y cytundeb sydd rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ynglŷn ag edrych i mewn i hynny. Nid fy rhan i, yn sicr, yw ateb dros yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma, ond rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar y mater yma ac yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu gwersi a dechrau arbrofi yn y maes, ac mae’n siŵr—rwy’n gobeithio’n fawr—y byddwn ni’n clywed yn y man sut mae hynny’n digwydd. Ond mae hi’n bwysig i ddweud bod y Pwyllgor Cyllid ei hun yn rhan o’r broses yma, er, wrth gwrs, nad ydym ni eisiau cymylu beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud a beth mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud: ein rôl ni yn craffu ar y Llywodraeth a rôl y Llywodraeth yn cynnig cyllideb.
Fe fuom ni ym Miwmares yr wythnos diwethaf yn cynnal sesiwn gyda’r cyhoedd yn fanna. Rydym ni wedi cael, hefyd, rwy’n cofio, sesiwn lwyddiannus iawn yn Ysgol Basaleg, ger Casnewydd, lle roeddem ni’n gwneud sesiwn ymarfer cyllidebu cyfranogol gyda chymorth y swyddogion addysg yn fan hyn. Yn ddiddorol iawn, ar ôl dosrannu’r holl arian Monopoly a oedd yn y dosbarth, yn fras iawn, roedd y gyllideb yn edrych yn hynod debyg i’r gyllideb sydd gyda chi nawr gan Lywodraeth Cymru. Hynny yw, mae pobl yn blaenoriaethu iechyd, wedyn maen nhw’n blaenoriaethu addysg, wedyn maen nhw’n rhannu ymysg y pethau eraill. Roedd yn ymarfer diddorol iawn, ac fe fyddwn ni yn arbennig yn leicio i’r pwyllgor wneud mwy o hynny gyda phobl ifanc, yn enwedig gyda’r cynnig, wrth gwrs, fod pobl ifanc yn dechrau pleidleisio yn 16 ar gyfer y Cynulliad. Mae yna rôl y gallwn ni ei gwneud yn y fanna. Mae’n siŵr bydd y Pwyllgor Cyllid yn falch o gael diwrnod allan o’r Cynulliad o bryd i’w gilydd i fod yn rhan o’r broses yna. [Torri ar draws.] Mae Nick Ramsay hefyd yn hapus i wneud hynny.
Nid oeddwn i’n ymwybodol o’r gwaith roedd e’n cyfeirio ato fe ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian. Nid oeddwn i’n ymwybodol o hynny, felly diolch am hynny, ac fe wnawn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n tynnu sylw’r tîm y tu ôl i’r Pwyllgor Cyllid hefyd—ein bod ni’n edrych ar hynny fel rhywbeth sydd yn gallu cyfoethogi ein gwaith ni yn y maes yna.