6. 5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol — Gwersi gan yr Alban

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:44, 19 Gorffennaf 2017

Rwy’n croesawu’n fawr iawn y datganiad gan Gadeirydd y pwyllgor, ac, fel mae’n dweud, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn, wrth ystyried y newidiadau sydd i ddod yn y blynyddoedd nesaf, fod gwaith y Pwyllgor Cyllid ddim yn cael ei gyfyngu i’r pwyllgor yna, ond yn rhan o drafodaeth genedlaethol, hyd yn oed tu fas i Senedd Cymru. Yn anffodus, ni chefais i’r cyfle a’r anrhydedd i ymweld â’n ffrindiau ni i’r gogledd gyda’r pwyllgor, ond fel cyn-ddinesydd yr Alban, rwy’n dilyn yn agos iawn y datblygiadau yn y wlad honno. Ac mae’n amlwg iawn, wrth siarad â chyd-aelodau’r pwyllgor a oedd wedi mynychu’r daith, fod y daith wedi bod yn un gwerth chweil dros ben.

Mae fy nghwestiynau i heddiw yn canolbwyntio yn bennaf ar gyllidebau cyfranogol—hynny yw, ‘participatory budgeting’—ardal efallai nad yw’r Alban cweit wedi arwain y gad arno ar lefel ryngwladol. Ond fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y flwyddyn yma, fe gytunodd y Llywodraeth gomisiynu ymchwil ar gyllidebau cyfranogol, drwy edrych ar fodelau gwahanol, ac hefyd, rwy’n deall, i gynnal cynllun peilot yn dilyn hynny. Yn anffodus, fel pwyllgor, nid ni sydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ran y Llywodraeth—rwy’n siŵr nad yw’n anffodus i’r Llywodraeth—ynglŷn â’r broses maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn creu’r gyllideb. Dim ond argymell ffyrdd gwell o weithredu allwn ni ei wneud. Ond rwy’n ddiolchgar iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn un sydd yn agored i syniadau newydd. Ond yn ein gwaith fel pwyllgor, gallwn fabwysiadu’r egwyddor o gyllidebau cyfranogol er mwyn helpu gyda’n proses ni o graffu ar gyllidebau y Llywodraeth, ac efallai y byddai hyn yn rywbeth y byddai Cadeirydd y pwyllgor yn awyddus i edrych arno.

Fel rhan o’n proses graffu ni ar y gyllideb, rydym ni fel pwyllgor eisoes yn gwahodd mudiadau ac yn y blaen i roi tystiolaeth, ac mae cyfle hefyd i fudiadau, busnesau a dinasyddion unigol gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Ond mae’n bosib i ni fod yn fwy rhagweithiol er mwyn cynnwys dinasyddion yn y broses yn fwy, yn fy marn ni. Felly, fy nghwestiwn i’r Cadeirydd yw: sut allwn ni ehangu’r cyfle i ddinasyddion unigol a chymunedau hefyd gymryd rhan yn y broses o lunio’r gyllideb mewn ffyrdd mwy rhagweithiol? Fel arfer da, gallwn ni ddysgu oddi wrth bwyllgorau eraill yn y Cynulliad. Er enghraifft, cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu arolwg barn i benderfynu beth ddylent ymchwilio iddo, gyda 2,700 o bobl yn cymryd rhan a phleidleisio ar gyfer eu dewis gorau nhw o nifer o bynciau gwahanol. Ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig achos, wrth gwrs, gyda’r gwasgiad sydd gyda ni ar gyllideb y Cynulliad oherwydd y ffordd mae Cymru’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, mae cwestiynau mawr yn mynd i ddod i ni fel cenedl ynglŷn â blaenoriaethu’r ‘block grant’. Hyd yn oed gyda datganoli rhannol o rai trethi, mae’r ‘block grant’ yna yn ganolog ac yn gyfyng iawn ar yr opsiynau. Mae model o ‘participatory budget’ efallai yn rhoi cyfle i ni gael trafodaeth go iawn gyda phobl Cymru ar y realiti yna, achos efallai nad yw nifer ohonyn nhw ddim yn ystyried hynny ar ôl i’r arian gael ei roi i Lywodraeth Cymru o San Steffan.

Ac hefyd ar y testun, mae Llywodraeth yr Alban yn cyllido Prifysgol Glasgow Caledonian i arwain ar raglen werthuso dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn asesu effaith cyllidebau cyfranogol ar gymunedau, gwasanaethau a democratiaeth, gyda ffocws benodol ar y berthynas rhwng cyllidebau cyfranogol a chydraddoldeb. A fuasai’r Cadeirydd yn ystyried cynnal arolwg tebyg drwy’r Pwyllgor Cyllid, efallai yn edrych ar ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb a llesiant cenedlaethau’r dyfodol? A jest i ategu yr hyn mae Nick Ramsay wedi’i ddweud ynglŷn â phwysigrwydd cael data, wrth i’r genedl yma aeddfedu fel democratiaeth, ac wrth i bwerau newydd ddod, a phwerau ariannol newydd ddod, maen hanfodol bod gennym ni ddata economaidd er mwyn ystyried go iawn y linc rhwng polisi ‘fiscal’ a pholisi economaidd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi barn y Cadeirydd ar sut allwn ni ehangu ar y data sydd ar gael ar hyn o bryd.