Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n codi o adroddiad blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfrifon 2015-16.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl allweddol yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon. Yn rhan o’r rôl hon, rydym fel mater o drefn yn craffu ar adroddiadau blynyddol a chyfrifon cyrff a ariennir yn gyhoeddus, ac yn ystyried materion yn ymwneud â gwerth am arian, a threfniadau llywodraethu ac archwilio sefydliadau. Roeddem i fod i ystyried adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16 yn hydref 2016. Fodd bynnag, gohiriwyd ein hystyriaeth ohonynt hyd nes y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn sefyllfa i roi barn amodol ynghylch rheoleidd-dra’r cyfrifon, a digwyddodd hynny ym mis Mawrth 2017.
Mae’r archwilydd cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â dyfarnu contractau gwerthu pren i weithredwr melin goed ym mis Mai 2014. Mae rhoi barn o’r natur hon yn ddigwyddiad anarferol a phrin, ac yn fater y credwn y dylid ei ddwyn i sylw’r Cynulliad hwn. Daethom i’r casgliad fod canfyddiadau’r archwilydd cyffredinol yn peri pryder mawr yn yr ystyr ei fod yn ystyried bod trafodion Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ymwneud â chontract gwerthu pren yn afreolaidd ac yn ei farn ef, yn ddadleuol ac ôl-effeithiol. Testun pryder pellach i ni oedd bod yr archwilydd cyffredinol wedi dod i’r casgliad fod yna ansicrwydd ynglŷn ag a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau cymorth gwladwriaethol.