Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wrth wrando ar yr Aelod yn egluro’r problemau sydd wedi codi wrth uno tri sefydliad yn y modd hwn, roeddwn yn meddwl tybed i ba raddau y teimlai fod hyn yn deillio mewn gwirionedd o’r ffaith nad oedd gennym Ddeddf a gâi ei chraffu yma yn y lle hwn. Cafodd ei wneud drwy Orchymyn gweinidogol, i bob pwrpas, gan ddefnyddio pwerau rheoleiddio San Steffan, ac mewn gwirionedd, nid yw’r Cynulliad hwn erioed wedi edrych yn iawn ar y modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei lywodraethu.