Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Er bod y ddadl heddiw yn ymwneud â materion o ran dyfarnu contract gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Pwyllgor Cyllid am gyfrannu un peth yn gryno iawn i’r ddadl, achos roedd yna oedi cyn i’r Archwilydd Cyffredinol Cymru osod cyfrifon blynyddol sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae hwnnw’n fater o bryder i’r Pwyllgor Cyllid.
Y cefndir yw ei bod yn ofynnol i’r archwilydd cyffredinol gyflwyno adroddiad ar y cyfrifon o fewn pedwar mis i’r dyddiad y gosododd Cyfoeth Naturiol Cymru y cyfrifon hynny, ond yn yr achos hwn nid oedd yn bosib oherwydd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn ymchwilio i’r materion sy’n gysylltiedig â dyfarnu’r contract. Dyna beth yw pwrpas adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ar yr achlysur hwn, ni lwyddodd yr archwilydd cyffredinol i fodloni ei derfyn amser statudol o ran gosod ei adroddiad ar y cyfrifon.
Mae’r sefyllfa hon wedi amlygu’r diffyg darpariaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru ofyn am estyniad i’r amserlen statudol o bedwar mis pe digwydd i unrhyw broblem godi wrth archwilio cyfrifon. Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Cynulliad wedi pasio nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n sefydlu cyrff, megis Awdurdod Cyllid Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Chymwysterau Cymru, i gyd yn cynnwys yr amserlen statudol hon o bedwar mis, heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer estyniad. Credwn fel Pwyllgor Cyllid fod hwn yn amryfusedd amlwg mewn deddfwriaeth Gymreig. Rwyf wedi ysgrifennu felly at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac at y Prif Weinidog ynglŷn â sefydlu cyrff yn gyffredinol gan Llywodraeth Cymru. Mae’n arbennig o bwysig pan fydd cyrff yn cael eu chreu drwy Orchmyn sefydlu, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol a statudol.
Rwy’n falch bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dechrau trafod y goblygiadau technegol a deddfwriaethol â Swyddfa Archwilio Cymru, ac y byddant yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth gan y Prif Weinidog am y camau sy’n cael eu cymryd ar ôl i’w swyddogion a Swyddfa Archwilio Cymru gwblhau y gwaith hwn. Diolch yn fawr.