Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ‘Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16’. Gan sicrhau gwerth am arian cyhoeddus, rôl Gweinidogion Cymru yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal y safonau priodol. Mae angen i ni fod yn gadarn yn ein gwaith craffu ac yn wir, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth wneud y gwaith craffu hwn ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd llywodraethu cadarn i gyrff cyhoeddus a sut y mae’n rhaid dilyn y broses briodol.
Y rheswm dros farn amodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfrifon 2015-16, fel y clywsom, oedd y modd y dyfarnwyd contract coed i weithredwr melin goed ym mis Mai 2014. Rwy’n falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef, o edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau’n wahanol. Mater i swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf yw’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi fy sicrhau eu bod eisoes wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rôl Llywodraeth Cymru fydd cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith y mae angen iddynt ei wneud i sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol.
Cyn y gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd y Prif Weinidog eisoes wedi comisiynu swyddogion Llywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu cyrff hyd braich yng Nghymru. Mae llawer o waith eisoes wedi’i wneud, ac rwyf wedi cael fy nghyfweld gan y swyddog sy’n arwain yr adolygiad. Fel corff hyd braich, caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli gan gytundeb fframwaith cadarn sy’n adlewyrchu’r egwyddorion a nodir yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’. Yn ystod eu hymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad mwy manwl o’r termau ‘newydd’ ‘dadleuol’, ac ‘ôl-effeithiol’ yn eu fframwaith llywodraethu cyfredol. Gwnaed y cais yn benodol i fynd i’r afael ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru fod y contract yn newydd, yn ddadleuol, ac yn ôl-effeithiol ac felly dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i’r adran sy’n eu noddi yn unol â’r fframwaith llywodraethu cyfredol. Fel rhan o’r adolygiad cyfredol o gyrff hyd braich, deallaf fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â’r materion hyn.
Gofynnodd David Melding a oedd diben Cyfoeth Naturiol Cymru ar y trywydd iawn, ac rwy’n credu ei bod yn werth ystyried, ers i Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei greu, eu bod wedi gorfod ymdrin â llawer o faterion unigryw, ac mae hynny’n cynnwys yr achosion o P. ramorum ar draws ystâd coedwigaeth Cymru, y stormydd gwaethaf o fewn cof yn ystod gaeaf 2013-14, a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sydd wedi effeithio ar eu diben a’u gweithgaredd o ddydd i ddydd ac wedi golygu bod y sefydliad yn cyflawni cyfrifoldebau statudol ychwanegol.