Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet am gyfrannu at y ddadl bwysig heddiw. Fel y dywedais ar ddechrau’r ddadl y prynhawn yma, mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl hanfodol yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon yng Nghymru, felly roedd hi’n bwysig iawn fod y pwyllgor yn cael cyfle i ddod â’r mater hwn i’r Cynulliad, ac rwyf wedi gwerthfawrogi hynny heddiw.
Nid pob dydd y mae corff cyhoeddus mawr fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweld barn amodol yn cael ei rhoi ar ei gyfrifon yn y modd hwn ac am y rhesymau a nodwyd heddiw. Os caf droi’n fyr at rai o’r cyfraniadau. Yn gyntaf, Neil McEvoy, fe gyfeirioch at ddiffyg achos busnes priodol. I ddechrau, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym fod yna achos busnes. Pan aethom ati i gwestiynu cywirdeb yr achos busnes, dywedwyd wrthym wedyn nad oedd yn achos busnes, mai papur opsiynau ydoedd, neu ryw ddisgrifiad tebyg. Roeddem yn ystyried hynny’n gwbl eithriadol, fel y dywedodd Neil McEvoy, fod contract gwerth £39 miliwn wedi’i ddyfarnu heb achos busnes priodol, a heb unrhyw gefndir ariannol. Rwy’n credu, pan ofynnwyd am ddata ariannol pellach i gefnogi’r penderfyniad, ni ddaeth i law, felly roedd yna wendid mawr yno yn amlwg.
Edrychodd David Melding ar bethau’n ehangach a chwestiynodd yr holl broses uno a arweiniodd at greu Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ystod y Cynulliad diwethaf rwy’n meddwl, ac uno’r tri chorff a oedd ar wahân yn flaenorol. Fe holoch a oedd y broses honno wedi gweithio mewn gwirionedd ac a oedd y broblem rydym yn ei thrafod heddiw mewn gwirionedd yn tynnu sylw at nam pwysig yn y ffordd y digwyddodd y broses honno, a phan fyddwch yn uno cyrff gwahanol â’i gilydd yn y ffordd hon, a yw hynny bron yn anochel yn mynd i arwain at broblemau ehangach. Mae honno’n ddadl ar gyfer rhyw dro eto, mae’n debyg, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi dod â’r persbectif hwnnw i’r Siambr heddiw.
Jenny Rathbone, roeddwn yn hoffi eich disgrifiad ‘y drosedd a gafodd ei chyflawni ddwywaith’: dim proses dendro ar y dechrau ac yna, dim ailwerthuso neu gamau unioni go iawn yn ddiweddarach pan oedd yn amlwg fod yna broblem roedd angen rhoi sylw iddi. Ac oedd, roedd yna broblem gyda’r ffordd roedd y coed llarwydd yn mynd i gael eu marchnata. Ni allwch orlifo’r farchnad â llwythi enfawr o goed llarwydd ar unwaith. Nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol. Dywedodd tystiolaeth a gymerasom gan y sefydliadau coedwigaeth y buom yn siarad â hwy fod hwnnw’n ddull anarferol o weithredu, ac ni chawsom ateb boddhaol gan Cyfoeth Naturiol Cymru pam yr aed ati yn y fath fodd.
Rhoddodd Simon Thomas safbwynt y Pwyllgor Cyllid i ni. Rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cyllid hefyd, felly rwyf wedi gweld y ddwy ochr i hyn, ac ydw, rwy’n gwybod mai’r mater sylfaenol i’r Pwyllgor Cyllid oedd methiant yr archwilydd cyffredinol i osod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd amserol ac yn unol â’i rwymedigaeth statudol. Rydym yn gwybod bod gwrthdaro rhwng ei rwymedigaeth statudol ar y naill law, a chymhwyso’i god ymarfer ei hun ar y llaw arall, a bu’n rhaid iddo ymgodymu â hynny. Ond rydych yn hollol iawn, ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ni ddylai ddigwydd yn y dyfodol, ac mae angen trafodaeth ehangach gyda Llywodraeth Cymru neu yn y Cynulliad hwn ynglŷn â sut y gellid newid y system fel nad yw’r archwilydd cyffredinol cyfredol, neu archwilydd cyffredinol yn y dyfodol yn ôl y digwydd, yn cael ei roi yn y fath sefyllfa anodd yn y dyfodol fel bod yn rhaid iddo wneud penderfyniad nad oes yr un o’r ddwy ochr yn mynd i fod yn hapus yn ei gylch.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi gweld bod y contractau a dyfarnu’r contract yn newydd, yn ddadleuol ac yn ôl-effeithiol. Roedd yn anodd iawn i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus weld pam na chafodd ei gydnabod bod y modd y dyfarnwyd y contract yn newydd, yn ddadleuol neu’n ôl-effeithiol. Roedd rhyw nam yn y broses honno, a soniodd Lee Waters—wel, fe gyfeirioch at haerllugrwydd ehangach. Ydy, mae hwnnw’n ymadrodd cryf iawn, fe wn, ond rwy’n meddwl eich bod wedi’i ddweud am y rhesymau iawn, ac yn sicr dangosodd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y dystiolaeth a roesant i ni, pa un a oedd yn haerllugrwydd ehangach neu’n hunanfodlonrwydd—nid wyf yn hollol siŵr sut y byddech yn ei ddisgrifio, ond roeddwn yn credu bod yna broblem gyda’r agwedd yn sicr, o ran y ffordd y teimlent ein bod wedi ystyried y modd y gwerthwyd y coed llarwydd ac y dyfarnwyd y contract. Nid yw £39 miliwn, yn y pen draw, yn swm bach o arian, ac mae’n sicr yn rhywbeth sydd angen ei wneud gydag achos busnes priodol a strategaeth briodol yn sail iddo.
Yng ngoleuni hyn oll, roeddem yn argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei drefniadau dirprwyo ochr yn ochr â chodi ei ymwybyddiaeth o gyfraith cymorth gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a’r broses ar gyfer dyfarnu contractau. Rydym yn falch, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, fod cynllun gweithredu wedi’i roi ar waith. Byddwn ni, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn gwylio hynny’n ofalus, ac rwy’n siŵr y bydd gan y Cynulliad ddiddordeb yn y modd y bydd hynny’n datblygu. Ond gadewch i ni fod yn hollol glir yn y ddadl hon heddiw, Llywydd, na ddylai’r sefyllfa hon fod wedi digwydd, ac mae angen i ni wneud yn gwbl siŵr nad yw byth yn digwydd eto.