Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rwy’n cofio mynd, ychydig flynyddoedd yn ôl, i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, pan oedd, ar un adeg, y Sbaenwyr—roedd yna broblem fawr ynglŷn â’r Sbaenwyr yng Nghernyw, ac roeddent yn llosgi baneri Sbaen yng Nghernyw. Euthum i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, a gâi ei harwain gan ryw Mr Gonzalez. Yr hyn a oedd wedi digwydd mewn gwirionedd oedd bod pysgotwyr Cymru wedi gwerthu eu cwotâu i’r Sbaenwyr. Felly, rwy’n credu bod beio’r UE am hynny, rwy’n meddwl, yn gamarweiniol.