– Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl UKIP ar Brexit ac ardaloedd gwledig. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig. Neil.
Cynnig NDM6371 Neil Hamilton
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn credu:
a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau’r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;
b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a’r economi wledig, drwy ddisodli’r CAP gan bolisi amaethyddol wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio’n arbennig at gadwraeth a diogelu’r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol a achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy’n grymuso pobl leol drwy:
a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;
b) gwneud newidiadau mawr i’r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;
c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a
d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n gweld o nifer y seddi gwag yn y Siambr heddiw ein bod wedi cyrraedd dyddiau cŵn yr haf, ond cawn ein gadael o leiaf â hufen Aelodau’r Cynulliad i wrando ar y ddadl hon. Hanfod y cynnig hwn yw lleoliaeth a datganoli, a dyna y mae proses Brexit yn ein galluogi i’w hymestyn.
Cyn mynd ymlaen at y cynnig, rwyf am ymdrin â’r gwelliannau. Nid wyf yn gwybod pam y mae grŵp y Ceidwadwyr bob amser yn gorfod dileu popeth yn ein cynnig a chynnwys rhywbeth sydd bron yn union yr un fath. Mae’r math hwn o ymddygiad rheibus drwy leibio ein cynnig yn resynus iawn yn fy marn i, ond nid oes unrhyw beth y gallwn anghytuno ag ef yng ngwelliannau’r Ceidwadwyr ar wahân i’r geiriau ‘Dileu popeth a rhoi yn ei le’ Ac wrth gwrs, rwy’n deall bod gan Blaid Cymru farn wahanol am y Bil ymadael â’r UE i’r un sydd gennym ni, ond rwy’n meddwl, am resymau a eglurais ddoe, fod yr ofnau hynny’n gyfeiliornus.
Cefais fy ngheryddu gan y Prif Weinidog ddoe am newid fy marn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, na ddylai’r pwerau y mae Brwsel yn eu mwynhau mewn meysydd datganoledig ar hyn o bryd ddod i’r Cynulliad o ganlyniad i Brexit. Rwy’n dal i gredu hynny’n gryf iawn, ac rwy’n ailadrodd yr hyn a ddywedais sawl gwaith o’r blaen, na ddylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE, o ran arian cyhoeddus, ac felly y dylid ychwanegu pob ceiniog o’r hyn y mae’r UE yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru at grant bloc Llywodraeth Cymru, fel y gallwn benderfynu wedyn fel Cynulliad ar ein blaenoriaethau. Wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol bwysig i ardaloedd gwledig yn arbennig, gan mai amaethyddiaeth a’r amgylchedd yw’r meysydd polisi lle y ceir fwyaf o gyfle i ddatganoli oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.
Er nad wyf yn tueddu i ymddiried llawer yn Theresa May, rwy’n meddwl y byddai’n anodd iawn dychmygu amgylchiadau lle y gallai’r Llywodraeth ymgilio rhag datganiadau mor bendant â’r un a ddyfynnais ddoe, pan ddywedodd Theresa May yn y Tŷ Cyffredin, na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cymryd oddi wrthynt.
Ac yn wir, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, mor ddiweddar â 23 Mehefin pan ofynnwyd iddo gan Paul Flynn mewn cwestiwn ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin a oedd unrhyw gymwyseddau deddfwriaethol ychwanegol yn cael eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol o ganlyniad i adael yr UE—fe atebodd:
Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn y pwerau a ddatganolir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.
A chan fod y Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydd yn ceisio cynnig cydsyniad yn y Cynulliad hwn fel rhan o’r broses, yn amlwg, mae gennym sylfaen yno i sicrhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith yn sgil y datganiadau pendant hynny. Felly, nid oes gennyf ofnau y bydd y Bil ymadael â’r UE yn bygwth ein pwerau mewn unrhyw ffordd, ac ni fydd unrhyw gipio tir. Byddai’r Llywodraeth yn ffôl iawn i geisio gwneud hynny. Ni allant elwa dim o wneud hynny.
Ond mae’n rhaid i ni dderbyn, rwy’n meddwl, fod Prydain yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac mae trafod cytundebau masnach ryngwladol yn gymhwysedd ar gyfer y DU. Ni all y Llywodraeth roi ei hun mewn sefyllfa lle, dyweder, y byddai Nicola Sturgeon er enghraifft yn ceisio’u dal yn wystlon tra’n aros am y broses ymadael ei hun. Felly, mae’n amlwg yn gwbl angenrheidiol fod yna gam trosiannol o’r math hwn, ond ar ei ddiwedd, pan fydd yr holl bwerau wedi’u hadfer i’r Deyrnas Unedig o’r UE, fod ein cyfran deg o’r hyn sy’n ddyledus i ni o dan y setliad datganoli presennol yn cael ei ddwyn yma i Gaerdydd, fel y gallwn wneud y penderfyniadau pwysig drosom ein hunain.
Fel cynrychiolydd ar ran Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth gwrs, rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd hyn i’n hetholwyr. Credaf fod y cyfle i ddatganoli’r rhan fwyaf o’r penderfyniadau amaethyddol, er gwaethaf y ffaith y bydd angen anochel am gytundeb arwyddocaol rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig ar fframweithiau penodol, er mantais i bawb wedyn—. Serch hynny, mae’n hanfodol bwysig y dylem allu gwneud ein blaenoriaethau ein hunain drosom ein hunain. Ac nid oes gennyf unrhyw ofn, hefyd, dros ffermwyr ac eraill sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth fod marchnadoedd yn mynd i ddiflannu a bod eu bywoliaeth dan fygythiad. Mae gennym ddiffyg masnach enfawr gyda’r UE ar fwyd a diod, a phe bai’r UE mor ffôl â gwrthod ymrwymo i ryw fath o gytundeb masnach rydd olynol gyda ni, yna byddem yn gallu ehangu ein marchnad gartref yn sylweddol iawn ar gyfer y rhan fwyaf o gynnyrch amaethyddol. Cig oen yw’r unig broblem sylweddol yn fy marn i yn hyn o beth, ond mae’r ffigurau dan sylw yn gymharol fach fel rhan o gyfanswm y gyllideb. Felly, beth bynnag yw’r canlyniad, beth bynnag yw’r anawsterau—ac mae’n rhwym o fod pwyntiau cadarnhaol a negyddol mewn unrhyw newid enfawr o’r math hwn—dylem allu dygymod â hwy’n gyfforddus o fewn y difidend Brexit. Am bob £5 y mae ffermwyr yn ei gael ar hyn o bryd o’r UE, rydym yn talu £10 i Frwsel er mwyn ei gael. Felly, mae digon o le yno i ni wneud mân newidiadau i’r system. Felly, nid wyf yn besimistaidd o gwbl ynglŷn â hynny.
Y fantais o wneud penderfyniadau mwy lleol yw nad ydym bellach yn gwneud y penderfyniadau pwysig hyn ar raddfa gyfandirol. Dyna’r broblem fawr gyda’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae yna 28 o wledydd ac mae’n rhaid i ni gael polisi amaethyddol sy’n gweithio yr holl ffordd o’r Penrhyn Gogleddol i lawr i Wlad Groeg a Gibraltar. A chyda hinsawdd a thopograffi mor amrywiol, yn anochel mae Cymru ar ei cholled. Ond pan fyddwn yn gyfrifol am ein polisi amaethyddol ein hunain, byddwn yn gallu teilwra polisi amaethyddol yn benodol i anghenion Cymru, a pheth da iawn fydd hynny hefyd. A byddwn yn gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain ar faterion fel chwynladdwyr, er enghraifft, a lles anifeiliaid, a byddwn yn gallu—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?
Anifeiliaid yw anifeiliaid ar draws Ewrop.
Mae’n ddigon posibl, ond os yw cyrff sy’n gwneud penderfyniadau yn gor-reoleiddio, mae hwnnw’n fater o gryn bryder i ni. Mae’r UE am wahardd Asulox, er enghraifft, sy’n bwysig iawn wrth reoli rhedyn ar y bryniau. Ac rydym wedi cael ein heithrio’n flynyddol rhag yr hyn y maent am ei wneud ers y chwe blynedd diwethaf. Byddwn yn gallu penderfynu drosom ein hunain a yw hwnnw’n bolisi call ai peidio, ac nid ydyw. Efallai fod yr UE yn awyddus i gael gwared ar glyffosad fel chwynladdwr, rhywbeth a brynwn mewn archfarchnadoedd fel Roundup. Nid yw hwn yn benderfyniad synhwyrol, ond fe allwn ni wneud y penderfyniad hwnnw yn y dyfodol yn hytrach na biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Mae ffermwyr yn cael problemau enfawr gyda thrawsgydymffurfio oherwydd, ar y funud, mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â phob manylyn yn y rheoliadau cymhleth y mae’r UE yn eu gorfodi arnom, a byddwn yn gallu mynd drwy’r llu o reoliadau drosom ein hunain i benderfynu pa rai rydym am eu cadw, pa rai sy’n ormodol a pha rai y gallwn eu hepgor yn gyfan gwbl. Felly, ar y cyfan, rwy’n credu bod dod â phenderfyniadau i lawr i’r lefel synhwyrol isaf yn beth hanfodol bwysig a gwerthfawr i ni allu ei wneud.
Mae rhannau eraill ein cynnig, sy’n cyfeirio at feysydd eraill o’r math hwnnw, nad ydynt yn gysylltiedig â’r UE—er enghraifft, ymgynghori ar gau ysgolion gwledig neu benderfyniadau ynglŷn â lleoli ffermydd gwynt gwledig, er enghraifft—yn hanfodol bwysig, rwy’n meddwl, o ran cynnal purdeb a chyfanrwydd ein tirweddau hyfryd yn y canolbarth. Nid wyf yn hoffi gweld coedwigoedd o felinau gwynt yn ymddangos ar ben y bryniau ac wrth gwrs, maent yn amhoblogaidd iawn yn y cymunedau y cawsant eu sodro arnynt. Nid oes raid i ni gael dadleuon am newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl er mwyn hyrwyddo’r ddadl hon, oherwydd hyd yn oed os ydych yn derbyn y damcaniaethau ynglŷn â chynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl, rhaid ei bod yn amlwg fod y cyfraniad y gellir ei wneud i ddatrys problemau newid yn yr hinsawdd drwy gael safbwynt eithafol o blaid lleoli ffermydd gwynt mewn lleoedd amhriodol—nid yw’n gwneud unrhyw gyfraniad go iawn i ddatrys y broblem o gwbl. Ond mae bywydau pobl yn cael eu dryllio, a phe bai gennym ddull lleol o reoli, yna byddem yn gallu rhwystro penderfyniadau o’r fath. Felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ymwybodol iawn o’r problemau arbennig sy’n bodoli mewn ardaloedd lle mae gennym boblogaeth denau a chysylltiadau trafnidiaeth anodd, a bod gennym fodd cyfansoddiadol o fynd i’r afael â’r rhain yn y ffordd fwyaf effeithlon. Credaf fod gadael yr UE yn cyfrannu at y broses honno, er nad yw’n ateb hollgwmpasol i’r cyfan.
Os edrychwn ar bysgota, er enghraifft—sy’n bwysig iawn i ni, unwaith eto—mae gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru oddeutu 75 y cant o arfordir Cymru yn ôl pob tebyg. Mae’r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi dinistrio’r diwydiant pysgota yn llwyr yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae wedi bod yn drychineb ecolegol hefyd fel y gŵyr pawb ohonom gyda’r polisi pysgod taflu yn ôl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwy’n hapus i ildio, gwnaf.
Rwy’n cofio mynd, ychydig flynyddoedd yn ôl, i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, pan oedd, ar un adeg, y Sbaenwyr—roedd yna broblem fawr ynglŷn â’r Sbaenwyr yng Nghernyw, ac roeddent yn llosgi baneri Sbaen yng Nghernyw. Euthum i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, a gâi ei harwain gan ryw Mr Gonzalez. Yr hyn a oedd wedi digwydd mewn gwirionedd oedd bod pysgotwyr Cymru wedi gwerthu eu cwotâu i’r Sbaenwyr. Felly, rwy’n credu bod beio’r UE am hynny, rwy’n meddwl, yn gamarweiniol.
Wel, mae hynny, wrth gwrs, yn tynnu sylw oddi ar y broblem go iawn: sef nad oedd gan yr UE, cyn 1973, unrhyw ddyfroedd pysgota go iawn ac o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni wedi ymuno, cafodd y polisi pysgodfeydd cyffredin ei daflu at ei gilydd fel bod modd ysbeilio dyfroedd Prydain, a chanlyniad hynny yw bod ein diwydiant pysgota bellach yn llawer llai nag yr oedd 40 mlynedd yn ôl. Mae nifer y pysgotwyr wedi gostwng 40 y cant, mae nifer y cychod wedi gostwng 28 y cant, ac rydym wedi byw drwy drychineb ecolegol ym môr y Gogledd ac mewn mannau eraill, rhywbeth sy’n cael ei gydnabod yn eang.
Nid wyf yn mynd i gymryd ail ymyriad, mae’n ddrwg gennyf. [Torri ar draws.] Gall yr Aelod wneud ei haraith ei hun, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff. Ond mae’n rhoi cyfle inni adfywio diwydiant pysgota Cymru, ac nid pysgodfeydd y glannau yn unig, wrth gwrs, nad ydynt yn cael eu heffeithio gan y polisi pysgodefydd cyffredin, ond i fynd ymhellach i ffwrdd. Nid wyf yn meddwl y gwelwch lawer o bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant pysgota sy’n credu bod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn hwb fel y mae rhai o’r Aelodau i’w gweld yn ei gredu. Y canlyniad yw diwydiant pysgota ar raddfa enfawr, sydd wedi peri i bysgotwyr bach fynd i’r wal, a byddwn yn gallu gwneud newidiadau sylweddol i hynny.
Felly, ceir llawer o resymau pam y dylem gefnogi’r cynnig hwn, ond fel y dywedais ar y dechrau un, mae hwn yn gyfle i ddod â’r broses o wneud penderfyniadau i lawr i’r lefel isaf bosibl fel y gall pobl gyffredin deimlo bod ganddynt ran go iawn i’w chwarae yn y prosesau sy’n rheoli eu bywydau a chyrff cynrychioliadol fel hwn, a etholir gan y bobl, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn yn y pen draw am wneud y penderfyniadau hynny, ac rydym yn atebol i’r bobl. Nid yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2. Yn cydnabod y bydd cyfle i leihau faint o fiwrocratiaeth sy’n wynebu ffermwyr Cymru ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno fframwaith ôl-Brexit sy’n cefnogi ffermwyr Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, drwy ddatblygu mwy o bolisïau wedi’u teilwra’n arbennig ym meysydd iechyd, addysg a thai.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig ledled Cymru, yn ogystal â’r diwydiannau sy’n seiliedig ar gymunedau gwledig. Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymru wledig yn gartref i 33 y cant o boblogaeth Cymru ac mae’n rhaid i fywiogrwydd a dyfodol y cymunedau hynny fod yn gadarn ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n hanfodol, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, fod pwerau i roi gwell cefnogaeth i gefn gwlad Cymru yn cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol i’r Senedd yma.
Rydw i’n derbyn yn llwyr fod angen gwneud llawer mwy o waith i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn delio ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod pwerau presennol y lle hwn yn cael eu diogelu a bod y cyfrifoldebau dros faterion datganoledig yn gyfan gwbl yn gorwedd yma ac nid mewn llefydd eraill. Yn wir, rydw i’n gobeithio y bydd y trafodaethau rhynglywodraethol a fydd yn digwydd i drosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn datganoli rhagor o bwerau i’r lle hwn er mwyn helpu i roi gwell cefnogaeth i gymunedau gwledig. Byddai hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o adnoddau a chyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad dylai’r Llywodraeth gyflwyno polisïau sy’n mynd i’r afael yn benodol â heriau Cymru wledig.
Wrth gwrs, yn ganolog i’n cymunedau gwledig ni yw’r sector amaethyddiaeth, ac wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i edrych ar y dirwedd rheoleiddio bresennol ar gyfer ffermwyr a sefydlu gwell ffyrdd o gefnogi ffermwyr. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod ni nawr yn cael y cyfle i ailwampio’r beichiau rheoleiddio ar ffermwyr Cymru a sicrhau bod mwy o ddulliau gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu, a phan fod rheoliadau yn cael eu cyflwyno, maent yn cael eu cyflwyno oherwydd tystiolaeth glir. Mae’n gwbl hanfodol bod y lefel o gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr Cymru ar faes chwarae gwastad â’u cystadleuwyr, a dyna pam fod sefydlu fframwaith amaethyddol parhaol ar lefel Brydeinig mor bwysig.
Wrth gwrs, nid yw’r ddadl heddiw yn ymwneud ag effaith Brexit ar amaethyddiaeth yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod un model ar gyfer pawb o lywodraethu Cymru yn gwbl annerbyniol a bod anghenion cymunedau gwledig yn wahanol iawn i gymunedau trefol.
Yn fy etholaeth i, rydym ni wedi gweld nifer o wasanaethau iechyd pwysig yn cau yn yr ysbyty lleol ac yn cael eu canoli, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach ar gyfer triniaethau a gwasanaethau. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw hyn yn dangos unrhyw ystyriaeth i ddymuniadau ac anghenion y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru. Hyd yn oed wrth i ni drafod y prynhawn yma, mae bwrdd iechyd Hywel Dda unwaith eto yn ymgynghori ar gael gwared ar wasanaethau yn sir Benfro—yn yr achos hwn, mae’n edrych i ganoli gwasanaethau iechyd meddwl.
Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfle nawr i Lywodraeth Cymru oedi ac i ailfeddwl y ffordd y mae’n rheoli darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, ers 1999 mae 227 o ysgolion ar draws Cymru wedi cau, gydag ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio waethaf. Mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym ni fod 41 o ysgolion wedi cael eu cau yng ngogledd Cymru ers datganoli. Ac er fy mod i’n derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol dros addysg nawr o’r diwedd yn cryfhau mesurau i ddiogelu ysgolion, ni fydd hyn o gysur i’r cymunedau hynny sydd wedi colli eu hysgolion ac sydd wedi colli canolbwynt cymunedol hanfodol. Mae’r gwasanaethau hyn yn ddolen gyswllt hollbwysig i drefi a phentrefi gwledig ac maent yn helpu i gyflawni nid yn unig gwasanaethau sydd mawr eu hangen, ond maent yn clymu cymunedau at ei gilydd.
Bydd Aelodau yn gwybod ein bod ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn parhau i alw am banel annibynnol i gael ei sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau a diwydiannau gwledig ledled Cymru, sydd mewn llawer gwell sefyllfa i graffu ar effeithiau polisïau Llywodraeth Cymru ar eu hamgylcheddau lleol, er mwyn sicrhau nad yw polisïau Llywodraeth Cymru yn negyddol ar gymunedau gwledig, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth nawr yn ystyried hyn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru anfon neges glir i gymunedau gwledig y byddant yn cael cydraddoldeb â rhannau trefol y wlad wrth ddatblygu polisïau a chyllido polisïau.
Mae’r cynnig yma heddiw yn esbonio y gallai Brexit arwain at gyfleoedd sylweddol i Gymru wledig, ond mae’n methu â chydnabod bod heriau sylweddol hefyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â Chymru wledig i gwrdd â’r heriau hynny. Felly, wrth gau, Dirprwy Lywydd, rydw i am orffen drwy ailadrodd pwysigrwydd ein cymunedau gwledig, nid yn unig i’n heconomi, ond i’n diwylliant hefyd. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n cymunedau gwledig a’n heconomi wledig. Er enghraifft, rydym yn gwybod taw amaethyddiaeth sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o unrhyw sector. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer mwy i gefnogi ein cymunedau gwledig. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddefnyddio’r lifrau presennol a’r lifrau newydd i sicrhau dyfodol i’n cymunedau gwledig, ac rwy’n annog Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliant. Mae’n ddiwedd tymor, ond nid oes esgus iddi fod yn ‘groundhog day’ unwaith eto. Mae’n rhaid dweud, rydym wedi bod rownd y rîl am flwyddyn gyfan ar y materion yma, ac yn benodol ddwywaith yr wythnos yma. Felly, fe wnaf fod yn gryno iawn, heb ailadrodd gormod o beth ddywedais i ddoe.
Yn syml iawn, mae Plaid Cymru yn glir o’r farn fod y Bil i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, beth bynnag yw hynny’n gywir yn Gymraeg, yn Fil sy’n tynnu pŵer oddi ar bobl Cymru, oddi ar y Cynulliad a’r Senedd, sy’n ymgorffori sofraniaeth Cymru. Wrth gwrs bydd gen i bersbectif gwbl wahanol ar hyn i UKIP. Mae UKIP yn credu yn sofraniaeth San Steffan. Mae UKIP yn credu yn sofraniaeth y Deyrnas Gyfunol uwchben y bobl sy’n byw yng Nghymru. Nid ydym ni’n derbyn hynny fel plaid annibyniaeth Cymru. Nid ydym yn derbyn hynny.
Ond, rydym hefyd yn gweld hwn fel rhywbeth gwbl sinigaidd gan y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd—eu bod nhw’n defnyddio pleidlais mewn un refferendwm i wyrdroi pleidlais nad oedden nhw’n licio mewn refferendwm arall. Yn 2011, fe gafwyd canlyniad refferendwm, nid 52 y cant i 48 y cant, ond 66 i 67 y cant o blaid y Senedd hon yn deddfu ym meysydd pysgodfeydd, amaeth, amgylchedd, iechyd ac addysg, ac ati, hefyd. Mae’r ffaith bod y Bil nawr a’r ffaith bod y Llywodraeth Geidwadol nawr yn San Steffan yn defnyddio esgus Brexit i ddal yn ôl ar y broses ddatganoli yn un o’r pethau mwyaf sinigaidd rwyf wedi ei weld yn ddiweddar, yn sicr ers 2011. Ac os oedd yna unrhyw amheuaeth nad oedd y Torïaid yn barod i wneud hyn, ac y byddem ni’n gallu bod gyda Neil Hamilton yn credu yng ngeiriau teg Theresa May, fe welsom ni neithiwr gyda’r Bil undebau llafur ei fod yn fwriad gan y Ceidwadwyr i wyrdroi unrhyw Fil sydd wedi’i basio fan hyn nad ydyn nhw’n fodlon arno. Mae’r wrth-ddemocrataidd llwyr ac mae’n dangos yn glir eu bod nhw’n defnyddio’r Bil i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn yr un ffordd.
Rwyf wedi bod yn gwrando yn ofalus iawn ers dros flwyddyn ar Neil Hamilton ac yn aros i’r rhethreg flodeuog ddiflannu ac i rai syniadau ddechrau dod gerbron ynglŷn â beth yw dyfodol amaeth i ffermwyr ar ôl Brexit, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd—ond nid jest yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl beth yw ei ddymuniad ef, ond gadael y farchnad sengl a gadael yr undeb tollau hefyd. Beth yw’r freuddwyd? Nid wyf wedi gweld unrhyw beth o freuddwyd neu weledigaeth ond breuddwyd gwrach. Yr unig beth rwyf wedi’i weld yw breuddwyd gwrach.
Heddiw, fe gawsom ni rhyw gip ar yr hunllef yna: tir Cymru yn llawn cemegau, wedi’i llygru, wedi’i halogi, yn llawn gorwneud. Yr unig beth mae wedi cynnig yw lladd y rhedyn ar y mynydd. Dim unrhyw fath o ddyfodol i fasnachu’r ŵyn sy’n bwyta ar y mynydd, dim unrhyw fath o ddyfodol i’r ffermwyr sy’n dibynnu ar loi sugno, a dim unrhyw fath o ddyfodol i’r ffermwyr sy’n dibynnu ar farchnad gwerth miliynau o bunnoedd. Nid yw’n unrhyw fath o weledigaeth.
Fe allaf i fynd yr wythnos nesaf i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd a siarad gyda ffermwyr gyda rhyw fath o hygrededd—pob lwc iddo fe yn trio gwneud hynny. Rwy’n mynd i lynu at y safbwynt sydd gen i fel Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r un rhanbarth, ond hefyd fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru. Rydym ni’n credu’n gryf iawn fod angen cadw’r berthynas yna gyda’r farchnad sengl ar gyfer ffermwyr, cadw’r berthynas yna gyda’r undeb tollau, ac yn fwy pwysig byth, cadw’r amgylchedd sydd gyda ni—ein hamgylchedd lân sy’n cefnogi bwyd o safon a lles anifeiliaid o safon yn ogystal. Dyna sydd wir yn arbennig am Gymru a’r iaith Gymraeg hefyd yn rhan o hynny. Mae unrhyw beth sydd gan UKIP i’w bortreadu fan hyn yn mynd i ddinistrio’r genedl fel rydym ni’n ei hadnabod hi, ac nid wyf i’n fodlon ar hynny. Dyna pam rydym ni’n gwrthod yn llwyr y cynnig sydd gan UKIP heddiw ac yn dodi hyn yn amgen yn ei le.
Y peth olaf y dywedaf i yw ein bod ni wir angen nawr gweld y Bil parhad gan y Llywodraeth. Mae’n rhy hwyr yn y dydd bellach i obeithio—fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe—y bydd gwelliannau’n cael eu cyflwyno yn San Steffan. Fedrwn ni ddim trystio y Ceidwadwyr na San Steffan ar hyn. Rydw i’n gwybod, yn eich calonnau, rydych chi, Aelodau Llafur, yn gwybod na fedrwch chi drystio’r Ceidwadwyr ar hyn. Cyflwynwch y Bil parhad a sefwch lan dros hawliau Senedd Cymru.
Rydym yn cyflwyno’r ddadl hon heddiw am fod gennym ddiddordeb—fel sydd gan bob Aelod, rwy’n disgwyl—mewn adfywio’r economi wledig. Rydym wedi cysylltu cynnig heddiw â phwnc Brexit, nid i achosi cynnwrf diangen yn y Siambr ar ddiwrnod olaf y tymor, ond yn hytrach i edrych ar y cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit. Nawr, rwy’n gwybod ein bod wedi cael rhyw led anghydweld yn y lle hwn dros fanteision ac anfanteision Brexit, ac rydym yn dal i gael rhywfaint o drafodaeth dwymgalon yma ynglŷn â pha ffurf yn union a fydd neu a ddylai fod ar Brexit. Wel, nid wyf am drafod ffurf Brexit yn ormodol. Dadl a gawsom ddoe yw honno, rwy’n teimlo—fel y soniodd Simon Thomas—i ryw raddau, ac un y byddwn yn ei hailddechrau mae’n debyg ar ôl i ni ddychwelyd yma ar ôl y toriad ym mis Medi—a bydd y ddadl yn parhau am beth amser ar ôl hynny yn ôl pob tebyg. Yr hyn y gallwn gytuno arno efallai yw bod rhyw fath o Brexit yn mynd i ddigwydd, felly mae angen inni feddwl am y cyfleoedd y gallai Brexit eu cynnig i ni a sut y gallai rhai o’r cyfleoedd hynny fod o gymorth i’r gymuned wledig.
Yn ychwanegol at gyfleoedd sy’n deillio o Brexit, mae yna hefyd ddulliau sydd eisoes o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Cynulliad y gellir eu defnyddio i helpu’r economi wledig. Hefyd, ceir pwerau sydd wedi llifo i mewn yn ddiweddar, neu ar fin llifo i’r Cynulliad o ganlyniad i gymhwysedd i godi trethi. Nawr, roedd yr holl bleidiau a gâi eu cynrychioli yn y Siambr yn y Pedwerydd Cynulliad eisiau’r pwerau treth, felly nawr yw’r amser i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut i’w defnyddio mewn perthynas â’r economi wledig.
Un elfen hanfodol yn hyn i gyd yw tai. Os ydym am gadw pentrefi gwledig ar eu ffurf bresennol, rwy’n credu bod angen inni weithredu’n bendant ac yn gywir yma. Yr hyn nad ydym ei angen yn arbennig yw i bentrefi gwledig golli eu cymeriad drwy ddod yn ddim mwy na threfi noswylio ar gyfer trefi a dinasoedd mwy o faint; nid yw’n ddyfodol rydym eisiau ei hyrwyddo ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â datblygiadau tai mawr anghydnaws, ac ynglŷn ag adeiladu ar y llain las. Wrth gwrs, mae angen tai gwledig, ond mae angen eu datblygu mewn modd cydymdeimladol ac yn unol â dymuniad y boblogaeth leol. Gyda datblygiadau mawr, credwn y dylid ymgynghori’n ystyrlon â phobl leol. Os ceir datblygiad dadleuol, yna dylai fod lle i gynnal refferendwm lleol sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Mae hyn yn golygu, os ceir digon o lofnodwyr, y gallai cymuned gael pleidlais ar ddatblygiad, a byddai’r awdurdod cynllunio perthnasol wedi’i rwymo’n gyfreithiol i nodi’r canlyniad a gweithredu yn unol â hynny. Gyda refferenda o’r fath sy’n rhwymo’n gyfreithiol byddai rhyw fath o ffurf ystyrlon i’r cysyniad o leoliaeth. Dylai fod mwy o rôl hefyd i gynghorau tref a chymuned yn y broses gynllunio.
Ochr arall y geiniog yw bod angen inni ysgogi adeiladu hefyd os oes cydsyniad lleol i’r cynllun adeiladu. Ac rydym yn gwybod bod mesurau newydd, dulliau newydd, ar gael i’r Cynulliad ym maes adeiladu tai. Un o’r problemau sy’n cyfyngu ar adeiladu tai yw’r broblem o fancio tir. Dyma’r broses lle mae llond llaw o gwmnïau datblygu eiddo cenedlaethol mawr yn crynhoi asedau tir, yn cael caniatâd cynllunio i adeiladu tai, ac yna’n gwneud dim ond eistedd arnynt, yn hytrach nag adeiladu unrhyw beth mewn gwirionedd. Ond gyda’r pwerau treth newydd ar gael, gellir mynd i’r afael â bancio tir drwy gyflwyno cyfres o daliadau: system o dreth tir ar dir lle mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi, ond lle nad oes unrhyw dai wedi cael eu hadeiladu. Gallai hyn ddechrau ar ôl tair blynedd dyweder, a chodi wedyn flwyddyn ar ôl blwyddyn hyd nes y bydd y rhaw’n torri’n dywarchen gyntaf. Nawr, mae’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, eisoes wedi awgrymu gweithredu yn y cyfeiriad hwn, ac rydym ni yn UKIP yn teimlo y dylem symud i’r cyfeiriad hwn a dylai Llywodraeth Cymru gael y grym i ddatblygu hyn. Nawr, yn yr achos hwn, daw’r pwerau i’r Cynulliad o San Steffan ar ffurf cymhwysedd i godi trethi. Gall pwerau eraill gael eu datganoli o ganlyniad i Brexit.
Er enghraifft, ar ôl i ni ddod allan o’r UE, ni fyddwn yn cael ein llywodraethu gan reolau caffael yr UE mwyach. Mae caffael yn arf arall y gellir ei ddefnyddio i yrru datblygiad economaidd. Rhaid i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru gael eu hannog, yn ôl statud os oes angen, i ddyfarnu contractau yn y sector cyhoeddus i gwmnïau lleol. Gallai hyn alw am wneud y broses dendro’n haws. Mae angen i ni edrych ar y rheolau a’r rheoliadau ar ôl Brexit, a sicrhau bod rheoliadau amherthnasol yn cael eu diddymu fel bod cwmnïau llai o faint, sy’n tueddu i amlhau mewn ardaloedd gwledig, yn cael caniatâd i dendro am gontractau. Efallai y bydd yn rhaid i ni gyflwyno cymalau fel bod nifer penodol o gontractau sector cyhoeddus yn cael eu dyrannu i gwmnïau o Gymru, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Mae hwn yn arf arall y gellid ei ddefnyddio i helpu’r economi wledig.
Yn y stryd fawr wledig mae angen i ni annog cysyniadau megis cydleoli, er mwyn i siopau, tafarndai, a swyddfeydd post o bosibl, gydfodoli yn yr un lle. Hefyd, gallwn ddefnyddio pwerau dros ardrethi busnes i helpu busnesau gwledig.
Gallai polisïau pysgodfeydd ôl-Brexit helpu i adfywio porthladdoedd pysgota a arferai fod yn ffyniannus yng Nghymru. Rydym wedi crybwyll hynny eisoes, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy’n galw am ddadl ynddo’i hun pan ddown yn ôl fis Medi nesaf, ond yn sicr mae yna gyfleoedd yno.
Ffactor hanfodol arall yw argaeledd band eang mewn ardaloedd gwledig. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau yn gyson mewn perthynas â’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig, felly mae angen gwneud mwy yn hynny o beth.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, yn sicr. Ar y cyfan, gallai fod dyfodol mwy addawol i economi wledig Cymru pe baem ond yn gweld y blynyddoedd nesaf fel cyfnod a allai ddod â rhywfaint o gynnwrf yn ei sgil, yn sicr, ond elfen fawr o gyfle hefyd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Eluned Morgan.
Hoffwn ddiolch i UKIP am ddadl arall eto ar Brexit. Rwy’n ofni bod y penderfyniad fel y mae yn llawn o wallau ac unwaith eto, mae’n dangos diffyg ymwybyddiaeth UKIP ynglŷn â sut y mae’r UE yn gweithio mewn gwirionedd. Mae’n paentio’r weledigaeth iwtopaidd ddelfrydol hon o’r dyfodol yng Nghymru am wlad sy’n llawn o laeth a mêl, lle na chaiff y cnafon ar y tu allan ddweud wrthym beth i’w wneud a byddant yn rhoi’r gorau i ddweud wrthym beth i’w wneud.
Felly, dyma ni: mae paragraff 1(a) yn nodi y bydd pobl Cymru yn cael
‘mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain’ ac yn atal technocratiaid anetholedig yr UE rhag difetha popeth. Wel, gallai hynny fod yn wir—mae gan ddynes ar ei phen ei hun mewn anialwch reolaeth lwyr dros ei bywyd, ond nid yw’n fawr o werth ac nid yw’n fawr o fywyd. Dyna’r math o reolaeth y byddai Neil Hamilton yn hoffi ei gweld yng Nghymru.
Gyda chyhoeddi’r Bil diddymu, a elwir bellach yn Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rydym yn gwybod y bydd gan bobl Cymru lais distawach na’r un a oedd gennym pan oedd hawl gennym i sedd wrth y bwrdd mewn system gylchdro pan gâi amaethyddiaeth a materion datganoledig eraill eu trafod ym Mrwsel.
Beth am y pwynt chwerthinllyd am dechnocratiaid anetholedig ym Mrwsel? Pŵer i argymell cyfreithiau yn unig sydd gan y Comisiwn. Y Cyngor Ewropeaidd—Llywodraethau etholedig yr UE, a oruchwylir gan Aelodau etholedig o Senedd Ewrop—sy’n penderfynu a yw’r cyfreithiau hyn yn pasio. I fod yn deg, mae’n debyg nad yw’n ymwybodol o hynny, gan nad oes llawer o ASEau UKIP yn trafferthu mynychu’r pwyllgorau lle y gwneir y penderfyniadau hynny.
Iawn, gadewch i ni symud ymlaen at baragraff 1(b): Bydd Brexit yn ‘creu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth’ a’r gymuned wledig. Wel, byddwn wrth fy modd yn meddwl bod hynny’n wir, ond mae’n rhaid ei fod yn gwybod, o’r holl sectorau yn yr economi lle bydd yn anodd cael mynediad dirwystr a di-dariff i farchnad yr UE, amaethyddiaeth yw’r un mwyaf agored—nid oes gan Norwy hyd yn oed y math hwn o fynediad. Wyddoch chi beth, gallwch daflu cymaint o gymorthdaliadau ag y dymunwch at ffermwyr, ond os nad oes ganddynt farchnad ar gyfer eu nwyddau, bydd y gêm ar ben os ydynt yn wynebu unrhyw beth tebyg i dariffau Sefydliad Masnach y Byd o 84 y cant ar wartheg a 46 y cant ar gig oen. Mae’n awgrymu y byddwn yn gallu ehangu i mewn i’n marchnad gartref—na allwn, os gwelwn lif o fwyd o’r Ariannin, Seland Newydd a’r holl fannau eraill y mae’n awyddus i lunio cytundebau â hwy.
Gyda llaw, mae’r Torïaid yn awgrymu eu bod yn mynd i allu cyfyngu ar fiwrocratiaeth. O ddifrif? Onid ydych yn deall unrhyw beth am yr undeb tollau? Rhaid i chi lenwi mwy o ffurflenni—ffurflenni gwlad tarddiad. Dyna eich awgrym.
Ar baragraff 2, grymuso pobl leol i wneud polisïau mewn ardaloedd gwledig, efallai yr hoffai arweinydd UKIP ddarllen fy nghynllun datblygu economaidd arfaethedig ar gyfer cefn gwlad Cymru, lle rydym yn galw am ddull o’r gwaelod i fyny at ddatblygu economaidd. Mae’n dweud y dylai penderfyniadau cynllunio mawr gael eu penderfynu’n lleol, yn enwedig mewn perthynas â ffermydd gwynt. Ond rhaid deall, er enghraifft, yn y Canolbarth, gyda datblygu grid trydan wedi’i atgyfnerthu i gynnal y ffermydd gwynt—lle cafodd hynny ei gynnig, a’i wrthod i bob pwrpas gan y boblobgaeth leol—fod canlyniadau go iawn i’r penderfyniadau hyn, fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru i Russell George ddoe. Nid oes pwynt cwyno am fod eisiau i ystâd ddiwydiannol greu swyddi os na allwch gael pŵer i mewn i’r ardal. Rwy’n credu bod angen i bobl feddwl yn galed ynglŷn â sut y maent yn mynd i symud o gwmpas yn y dyfodol pan fo’r newid hwn i gerbydau trydan, ond ni fydd digon o drydan i wefru’r cerbydau trydan hynny yng nghanolbarth Cymru.
Ar baragraff (b), ysgolion gwledig, mae’r Ysgrifennydd addysg wedi’i gwneud yn glir y bydd yn rhoi camau ar waith i ddiogelu ysgolion bach gwledig.
Ar baragraff (c), wrth gwrs bod angen hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy, ond ar ôl siarad yn ddiweddar ag adeiladwyr tai preifat, sy’n dweud wrthyf nad yw’n ymarferol iddynt yn economaidd i adeiladu mewn rhannau o gefn gwlad Cymru, mae angen i ni gael llawer gwell syniad o sut y mae’r farchnad yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru. Nid yw’r atebion yn syml; maent yn gymhleth.
Ar baragraff (d), rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai o faint, wrth gwrs, mae’n ymddangos fel datganiad hawdd iawn i’w gefnogi, ond rwy’n gwahodd Mr Hamilton i geisio dod o hyd i bediatregydd ymgynghorol i ddod i weithio yn ysbyty Llwynhelyg, neu feddyg teulu i ddod yn bartner ym Meddygfa Tŷ Ddewi. Rwy’n sicr y bydd y bwrdd iechyd lleol yn brathu eich llaw i ffwrdd os gallwch ddod o hyd i rywun.
A ydych yn derbyn mai un o’r rhesymau pam nad oes gennym ddigon o feddygon teulu, meddygon ymgynghorol, neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill yw methiant llwyr eich Llywodraeth i gynllunio’n briodol ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar y GIG yng Nghymru mewn gwirionedd?
Nac ydw. A ydych yn gwybod beth rwy’n—? [Torri ar draws.] A ydych yn gwybod beth rwy’n—? [Torri ar draws.] Fe ddywedaf wrthych beth—. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud wrthych. Gadewch i mi ddweud wrthych. Mae’r sefyllfa’n waeth yn awr oherwydd y math o negeseuon a gyflewyd gan bobl fel Neil Hamilton a’i debyg i’r bobl sy’n cefnogi ein GIG, sy’n cefnogi ein gweithwyr gofal. Pobl ydynt sydd yma o’r UE, ac maent yn teimlo bellach nad oes croeso iddynt oherwydd Mr Hamilton a’i debyg.
Rwy’n credu bod y penderfyniad hwn yn nodweddiadol o UKIP—yn llawn o atebion smala, hawdd mewn byd soffistigedig a chymhleth iawn. Maent wedi gwneud addewidion na allant eu cadw, ac na fyddant yn cael eu cadw. Maent wedi camarwain pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac rwy’n rhagweld y bydd ef yn ddiogel filltiroedd i ffwrdd o Gymru yn ei dŷ hyfryd yn Wiltshire os methwn ennill y cytundebau addawedig a wnaed ganddo pan ddaw’r holl beth i lawr yn chwilfriw—os na lwyddwn i gael y math o gytundebau y mae’n rhagweld eu bod mor hawdd i’w cael.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, ddoe clywais arweinydd UKIP yn cyfeirio at filwyr yn dod allan o’r jyngl i ailymladd brwydrau sydd wedi dod i ben ers amser hir. Roeddwn yn cymryd yn ganiataol ei fod yn cyfeirio at y cynnig heddiw gyda’i gyfeiriadau agoriadol difrïol trist a threuliedig at dechnocratiaid anetholedig ym Mrwsel. A oes unrhyw un yn credu o ddifrif y gall galw enwau dirmygus ffurfio sail i negodi llwyddiannus gyda 27 o wledydd eraill yn Ewrop? A oes unrhyw un yn credu o ddifrif y gall sarhad greu llwyfan i ni allu adeiladu dyfodol llwyddiannus i Gymru y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd?
Nawr, Dirprwy Lywydd, nid yw’n neges y mae’r rhai a gynigiodd y cynnig hwn yn awyddus i’w chlywed, ond mae’n ffaith syml fod derbyniadau Cymru o’r polisi amaethyddol cyffredin ac o’r cronfeydd strwythurol yn ffurfio cyfran lawer uwch o ddyraniad y DU nag y byddai ein cyfran Barnett byth yn ei wneud. Mae cyllid yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig ar ei ben ei hun yn werth tua £500 miliwn yn y cylch cyfredol, ac roedd yn werth dros £300 miliwn yn y cylch blaenorol, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gyda chronfeydd strwythurol yr UE, mae’r rhain wedi darparu gwasanaethau hynod o ddefnyddiol ac incwm hanfodol i lawer yn ein cymunedau gwledig.
Nawr, fel y dangosodd Eluned Morgan mor fedrus, mae hwn yn gynnig a ysgrifennwyd gan Pollyanna gyda thamaid o help gan Mr Micawber. Mae’n eironig yn wir ein bod yn ei drafod heddiw, y diwrnod ar ôl cyhoeddi adroddiad awdurdodol a argymhellais i Aelodau UKIP, ‘A Food Brexit: time to get real’. Ac mae’r adroddiad hwn, a ysgrifennwyd gan yr Athro Tim Lang, yr arbenigwr mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar fwyd, ynghyd â’r Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd, yn dod i’r casgliad fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu risgiau difrifol i fuddiannau defnyddwyr, iechyd y cyhoedd, busnesau a gweithwyr yn y sector bwyd.
Ond nid yn unig o ran ei fethiant i amgyffred realiti ei gynnwys ei hun y mae’r cynnig yn ddiffygiol, ond yn y modd y mae’n mynd ati’n feius i esgeuluso’r cyd-destun y caiff dyfodol cymunedau a diwydiannau Cymru ei lunio ynddo. Dirprwy Lywydd, nid yw hyd yn oed yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu cyllid yn lle’r cyllid y mae Cymru’n ei gael ar y lefel bresennol, heb sôn am yr addewidion o lewyrch ariannol ôl-Brexit a wnaed gan y rhai a gynigiodd y cynnig. Nid yw’r cynnig yn hyd yn oed yn galw ar Lywodraeth y DU i barchu ffiniau datganoli fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol hwn barhau i ymateb i anghenion penodol cymunedau gwledig yng Nghymru, a hyn ar adeg pan fo’r galluoedd hynny dan ymosodiad mor uniongyrchol. Dirprwy Lywydd, mae’n anodd bod o ddifrif ynglŷn â chynnig sydd, ei hun, yn gwneud cyn lleied i fod o ddifrif ynglŷn â phethau.
Mewn cyferbyniad, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i’w gwneud yn glir fod yn rhaid i Lywodraeth y DU a’r rhai sy’n arwain yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd warantu bod yn rhaid i bob un geiniog sy’n llifo i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd lifo’n uniongyrchol i Gymru yn y dyfodol ac yn ein dogfen bolisi ddiweddar ‘Brexit a Datganoli’, rydym yn nodi ein syniadau ar sut y gellir datblygu trefniadau cyfansoddiadol newydd. Bwriedir i’r ddogfen fod yn gyfraniad adeiladol i’r ddadl bwysig sydd ei hangen ar draws y Deyrnas Unedig ac sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd rhan mewn trafodaeth ar ddefnyddio’r ddogfen hon fel man cychwyn ar gyfer datblygu unrhyw fframweithiau sydd eu hangen ar ôl Brexit ar sail cydsyniad a chytundeb ac nid gorfodaeth.
Dirprwy Lywydd, mae’r negeseuon a gawn gan randdeiliaid yng nghefn gwlad Cymru yn glir iawn: yma yng Nghymru, nid yn unig y mae amaethyddiaeth yn wahanol iawn o ran ei natur o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ond mae’r rhan y mae’n ei chwarae yn ein cymunedau ac yn ein cymdeithas yn wahanol iawn hefyd, o reoli ein dŵr i dwristiaeth, ac fel y nododd Paul Davies yn glir iawn yn ei gyfraniad, yn nyfodol ein diwylliant a’n hiaith yn ogystal. Mae angen i ni adeiladu ar enw da Cymru am gynnyrch o ansawdd uchel a seiliwyd ar ein safonau uchel sy’n diogelu iechyd pobl, yn sicrhau lles anifeiliaid, ac yn cefnogi camau gweithredu amgylcheddol hanfodol. Mae’r safonau hyn yn allweddol i’n cystadleurwydd mewn marchnad fyd-eang yn y dyfodol, ac mae cyfleoedd ar gael yno i ffermwyr arallgyfeirio a manteisio ar farchnadoedd sy’n tyfu mewn meysydd fel ynni.
Nawr, gadewch i ni fod yn glir, Dirprwy Lywydd, fod ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y Bil ymadael yn golygu y byddem yn colli’r gallu i ddarparu dull sy’n unioni diffygion y polisi amaethyddol cyffredin a llunio dull gwell, wedi’i deilwra’n well ar gyfer Cymru. Yn lle hynny, ar y naill law, mae’r Bil ymadael yn ein cloi mewn fframwaith hen ffasiwn ac ar y llaw arall, mae’n cael gwared ar ein gallu i fwrw ymlaen i ddiwygio, gan ein gadael i wynebu Brexit gyda dwy law wedi’u clymu y tu ôl i’n cefnau.
Nawr, gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Paul Davies pan siaradodd am y Bil ymadael, ac rwy’n cymryd bod yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma yn gyfraniad adeiladol i’r ffordd y gallwn feddwl am y materion hyn yn y dyfodol—yn wahanol iawn, rwy’n meddwl, i gyfraniad y sawl a gynigiodd y cynnig sydd, gyda difaterwch nodweddiadol, ond yn ystyried y Bil ymadael fel rhywbeth nad oes angen i’r un ohonom yma boeni ein pennau yn ei gylch. Fel rydym wedi’i ddweud, mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn glir ein bod yn cydnabod yr angen am ddulliau cyffredin drwy’r DU mewn rhai meysydd amaethyddol, yn enwedig lle mae hyn yn bwysig ar gyfer masnach ac ar gyfer gweithrediad mewnol y farchnad yn y DU, ond rhaid i’r rhain gael eu datblygu a’u cytuno ar y cyd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac nid eu gorfodi arnom o Lundain.
Dyma’r materion pwysig sydd yn y fantol i gymunedau Cymru heddiw. Dyna pam, Dirprwy Lywydd, y bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig ei hun, ond yn cefnogi’r gwelliant a gynigiwyd gan Blaid Cymru ac a esboniwyd mor hynod o glir yma y prynhawn yma gan Simon Thomas.
Gadewch i mi droi yn fyr iawn at rai o fanylion y cynnig, Dirprwy Lywydd, i gofnodi’r camau sy’n cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth hon i gefnogi pob cymuned wledig. O ran cynllunio, rydym wedi datblygu ein polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn ystyried anghenion lleol mewn ardaloedd gwledig ac yn arbennig, i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r potensial ar gyfer mwy o ddefnydd o’n hardaloedd gwledig i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan roi sylw i faterion sy’n gysylltiedig ag effeithiau gweledol ac amwynder ar gymunedau cyfagos. O ran tai, mae cyflwyno mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dyna pam rydym yn ymrwymo i ddarparu cyllid ar gyfer swyddogion galluogi tai gwledig yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, ac rydym eisoes wedi gweld prosiectau llwyddiannus ar draws Cymru, gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion, Sir Fynwy a Bro Morgannwg. Byddwn yn parhau i ariannu a gweithio gydag awdurdodau lleol gwledig, cymdeithasau tai, a’r swyddogion galluogi tai gwledig er mwyn sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy yn cael eu darparu mewn ardaloedd lle y ceir angen gwirioneddol.
Fe glywsoch eisoes gan Eluned Morgan sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn cefnogi ysgolion gwledig a chaniatáu i gymunedau gael mwy o gyfle i wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r ysgolion hynny, ac mae wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gryfhau’r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Ym maes iechyd, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio’n agos gydag ardaloedd gwledig i fynd i’r afael â’r problemau real iawn a wynebir gan wasanaethau mewn ardaloedd anghysbell a gwledig, a’r heriau a nododd Eluned Morgan o ran recriwtio staff i weithio yn yr ardaloedd hynny.
Dirprwy Lywydd, gadewch i mi fod yn glir ein bod yn mynd i’r afael ag anghenion penodol gwasanaethau cyhoeddus ar draws cefn gwlad Cymru. Mae’n amlwg na ellir cynnal manteision yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig drwy fynediad i’r farchnad sengl, safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchel, a lefelau sylweddol o gyllid yn hawdd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod yna heriau mawr i Gymru wledig. Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau gwledig i’w helpu i wynebu’r rheini gyda’n gilydd.
Ar y llaw arall, yr unig gyfraniad i amaethyddiaeth yng Nghymru gan y rhai a gynigiodd y cynnig yma fydd gweithgynhyrchu ffantasïau ar raddfa ddiwydiannol, ond pe bai’r dyfodol yn cael ei roi yn eu dwylo hwy, bydd blas y ffantasïau hynny i bobl yng nghefn gwlad Cymru yn chwerw iawn yn wir.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mwynheais yr araith liwgar gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond nid wyf yn credu ei bod wedi mynd â ni fawr pellach ymlaen yn y ddadl hon. Yr hyn sy’n peri syndod i mi am Blaid Cymru yw eu bod, fel plaid genedlaethol, yn ofni gweld y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei datganoli o Frwsel i Gaerdydd. Byddwn wedi meddwl mai’r peth cyntaf y byddai plaid genedlaethol ei eisiau yw pŵer i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac i wneud y deddfau sy’n rheoli eu gwlad, ac felly mae Plaid Cymru yn rhoi ei hun yn y gwersyll gyferbyn: maent yn gwrthwynebu’r egwyddorion cenedlaetholdeb y maent yn eu cymhwyso yn ein gwlad ein hunain.
Yn bersonol, nid wyf yn ofni cael y cyfrifoldeb sy’n mynd gyda datganoli grym yn y cyswllt hwn, oherwydd, yn gyffredinol, mae penderfyniadau’n well o’u gwneud ar lefel leol nag o’u gwneud ymhellach i fyny, yn enwedig os ydynt yn cael eu gwneud ymhellach i fyny gan dechnocratiaid anetholedig, rhywbeth na chafodd ei roi yn y cynnig fel term difrïol o gwbl, ond yn hytrach fel datganiad o ffaith yn unig. Mae Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei benodi, ac mae’r prosesau gwneud penderfyniadau yn yr Undeb Ewropeaidd yn aneglur. Rwyf wedi bod yn aelod o Gyngor y Gweinidogion: roeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol—[Torri ar draws.] Roeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol yn yr Adran Masnach a Diwydiant 25 mlynedd yn ôl. Rwyf wedi gweld y ffordd y mae’r prosesau’n gweithio. Maent yn bell iawn o fod yn ddemocrataidd ac mae’n anodd tu hwnt dylanwadu arnynt. Felly, o ganlyniad i allu gwneud penderfyniadau ar lefel leol, credaf fod democratiaeth yn gwella ac ni fydd pobl yn teimlo wedi’u dieithrio i’r fath raddau oddi wrth y system wleidyddol.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac yn wir, roedd cyfraniad Paul Davies yn gwneud llawer o synnwyr, yn enwedig ei gynnig ynglŷn â phanel craffu ar gyfer ardaloedd gwledig yng Nghymru a’r ffaith nad yw un ateb polisi sy’n gweddu i bawb wedi’i gymhwyso gan Lywodraeth Cymru, o reidrwydd yn addas i ardaloedd gwledig yng Nghymru.
Rwy’n gwybod bod Eluned Morgan yn mynd o gwmpas yn cario arwydd yn dweud ‘mae diwedd y byd gerllaw’, ac nid oedd ei chyfraniad heddiw’n ddim gwahanol i’r arfer, wrth sôn am anrheithio canolbarth Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Mae hi’n siarad o hyd am syrthio oddi ar glogwyn. Mewn gwirionedd, y gwaethaf y gallwn ei wneud yw disgyn oddi ar ymyl palmant, gan mai 7 y cant yn unig o’n cynnyrch mewnwladol crynswth sy’n deillio o fasnach â’r UE, ond wrth gwrs, nid wyf yn credu bod yna unrhyw reswm pam y dylai hynny leihau wedyn.
Bydd, fe fydd anawsterau yn y broses o drafod, ac mae ansicrwydd yn y dyfodol, ond yn bersonol, mae gennyf ffydd yn ein pobl, ym menter y wlad hon a’n gallu i wneud ein ffordd yn y byd fel rydym bob amser wedi’i wneud, drwy ein hymdrechion ein hunain a’n dyfeisgarwch ein hunain.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio.