9. 8. Dadl UKIP Cymru: Cymunedau Gwledig a Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:55, 19 Gorffennaf 2017

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig ledled Cymru, yn ogystal â’r diwydiannau sy’n seiliedig ar gymunedau gwledig. Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymru wledig yn gartref i 33 y cant o boblogaeth Cymru ac mae’n rhaid i fywiogrwydd a dyfodol y cymunedau hynny fod yn gadarn ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n hanfodol, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, fod pwerau i roi gwell cefnogaeth i gefn gwlad Cymru yn cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol i’r Senedd yma.

Rydw i’n derbyn yn llwyr fod angen gwneud llawer mwy o waith i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn delio ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod pwerau presennol y lle hwn yn cael eu diogelu a bod y cyfrifoldebau dros faterion datganoledig yn gyfan gwbl yn gorwedd yma ac nid mewn llefydd eraill. Yn wir, rydw i’n gobeithio y bydd y trafodaethau rhynglywodraethol a fydd yn digwydd i drosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn datganoli rhagor o bwerau i’r lle hwn er mwyn helpu i roi gwell cefnogaeth i gymunedau gwledig. Byddai hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o adnoddau a chyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad dylai’r Llywodraeth gyflwyno polisïau sy’n mynd i’r afael yn benodol â heriau Cymru wledig.

Wrth gwrs, yn ganolog i’n cymunedau gwledig ni yw’r sector amaethyddiaeth, ac wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i edrych ar y dirwedd rheoleiddio bresennol ar gyfer ffermwyr a sefydlu gwell ffyrdd o gefnogi ffermwyr. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod ni nawr yn cael y cyfle i ailwampio’r beichiau rheoleiddio ar ffermwyr Cymru a sicrhau bod mwy o ddulliau gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu, a phan fod rheoliadau yn cael eu cyflwyno, maent yn cael eu cyflwyno oherwydd tystiolaeth glir. Mae’n gwbl hanfodol bod y lefel o gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr Cymru ar faes chwarae gwastad â’u cystadleuwyr, a dyna pam fod sefydlu fframwaith amaethyddol parhaol ar lefel Brydeinig mor bwysig.

Wrth gwrs, nid yw’r ddadl heddiw yn ymwneud ag effaith Brexit ar amaethyddiaeth yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod un model ar gyfer pawb o lywodraethu Cymru yn gwbl annerbyniol a bod anghenion cymunedau gwledig yn wahanol iawn i gymunedau trefol.

Yn fy etholaeth i, rydym ni wedi gweld nifer o wasanaethau iechyd pwysig yn cau yn yr ysbyty lleol ac yn cael eu canoli, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach ar gyfer triniaethau a gwasanaethau. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw hyn yn dangos unrhyw ystyriaeth i ddymuniadau ac anghenion y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru. Hyd yn oed wrth i ni drafod y prynhawn yma, mae bwrdd iechyd Hywel Dda unwaith eto yn ymgynghori ar gael gwared ar wasanaethau yn sir Benfro—yn yr achos hwn, mae’n edrych i ganoli gwasanaethau iechyd meddwl.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfle nawr i Lywodraeth Cymru oedi ac i ailfeddwl y ffordd y mae’n rheoli darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, ers 1999 mae 227 o ysgolion ar draws Cymru wedi cau, gydag ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio waethaf. Mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym ni fod 41 o ysgolion wedi cael eu cau yng ngogledd Cymru ers datganoli. Ac er fy mod i’n derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol dros addysg nawr o’r diwedd yn cryfhau mesurau i ddiogelu ysgolion, ni fydd hyn o gysur i’r cymunedau hynny sydd wedi colli eu hysgolion ac sydd wedi colli canolbwynt cymunedol hanfodol. Mae’r gwasanaethau hyn yn ddolen gyswllt hollbwysig i drefi a phentrefi gwledig ac maent yn helpu i gyflawni nid yn unig gwasanaethau sydd mawr eu hangen, ond maent yn clymu cymunedau at ei gilydd.

Bydd Aelodau yn gwybod ein bod ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn parhau i alw am banel annibynnol i gael ei sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau a diwydiannau gwledig ledled Cymru, sydd mewn llawer gwell sefyllfa i graffu ar effeithiau polisïau Llywodraeth Cymru ar eu hamgylcheddau lleol, er mwyn sicrhau nad yw polisïau Llywodraeth Cymru yn negyddol ar gymunedau gwledig, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth nawr yn ystyried hyn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru anfon neges glir i gymunedau gwledig y byddant yn cael cydraddoldeb â rhannau trefol y wlad wrth ddatblygu polisïau a chyllido polisïau.

Mae’r cynnig yma heddiw yn esbonio y gallai Brexit arwain at gyfleoedd sylweddol i Gymru wledig, ond mae’n methu â chydnabod bod heriau sylweddol hefyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â Chymru wledig i gwrdd â’r heriau hynny. Felly, wrth gau, Dirprwy Lywydd, rydw i am orffen drwy ailadrodd pwysigrwydd ein cymunedau gwledig, nid yn unig i’n heconomi, ond i’n diwylliant hefyd. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n cymunedau gwledig a’n heconomi wledig. Er enghraifft, rydym yn gwybod taw amaethyddiaeth sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o unrhyw sector. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer mwy i gefnogi ein cymunedau gwledig. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddefnyddio’r lifrau presennol a’r lifrau newydd i sicrhau dyfodol i’n cymunedau gwledig, ac rwy’n annog Aelodau i gefnogi ein gwelliant.