Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Hoffwn ddiolch i UKIP am ddadl arall eto ar Brexit. Rwy’n ofni bod y penderfyniad fel y mae yn llawn o wallau ac unwaith eto, mae’n dangos diffyg ymwybyddiaeth UKIP ynglŷn â sut y mae’r UE yn gweithio mewn gwirionedd. Mae’n paentio’r weledigaeth iwtopaidd ddelfrydol hon o’r dyfodol yng Nghymru am wlad sy’n llawn o laeth a mêl, lle na chaiff y cnafon ar y tu allan ddweud wrthym beth i’w wneud a byddant yn rhoi’r gorau i ddweud wrthym beth i’w wneud.
Felly, dyma ni: mae paragraff 1(a) yn nodi y bydd pobl Cymru yn cael
‘mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain’ ac yn atal technocratiaid anetholedig yr UE rhag difetha popeth. Wel, gallai hynny fod yn wir—mae gan ddynes ar ei phen ei hun mewn anialwch reolaeth lwyr dros ei bywyd, ond nid yw’n fawr o werth ac nid yw’n fawr o fywyd. Dyna’r math o reolaeth y byddai Neil Hamilton yn hoffi ei gweld yng Nghymru.
Gyda chyhoeddi’r Bil diddymu, a elwir bellach yn Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rydym yn gwybod y bydd gan bobl Cymru lais distawach na’r un a oedd gennym pan oedd hawl gennym i sedd wrth y bwrdd mewn system gylchdro pan gâi amaethyddiaeth a materion datganoledig eraill eu trafod ym Mrwsel.
Beth am y pwynt chwerthinllyd am dechnocratiaid anetholedig ym Mrwsel? Pŵer i argymell cyfreithiau yn unig sydd gan y Comisiwn. Y Cyngor Ewropeaidd—Llywodraethau etholedig yr UE, a oruchwylir gan Aelodau etholedig o Senedd Ewrop—sy’n penderfynu a yw’r cyfreithiau hyn yn pasio. I fod yn deg, mae’n debyg nad yw’n ymwybodol o hynny, gan nad oes llawer o ASEau UKIP yn trafferthu mynychu’r pwyllgorau lle y gwneir y penderfyniadau hynny.
Iawn, gadewch i ni symud ymlaen at baragraff 1(b): Bydd Brexit yn ‘creu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth’ a’r gymuned wledig. Wel, byddwn wrth fy modd yn meddwl bod hynny’n wir, ond mae’n rhaid ei fod yn gwybod, o’r holl sectorau yn yr economi lle bydd yn anodd cael mynediad dirwystr a di-dariff i farchnad yr UE, amaethyddiaeth yw’r un mwyaf agored—nid oes gan Norwy hyd yn oed y math hwn o fynediad. Wyddoch chi beth, gallwch daflu cymaint o gymorthdaliadau ag y dymunwch at ffermwyr, ond os nad oes ganddynt farchnad ar gyfer eu nwyddau, bydd y gêm ar ben os ydynt yn wynebu unrhyw beth tebyg i dariffau Sefydliad Masnach y Byd o 84 y cant ar wartheg a 46 y cant ar gig oen. Mae’n awgrymu y byddwn yn gallu ehangu i mewn i’n marchnad gartref—na allwn, os gwelwn lif o fwyd o’r Ariannin, Seland Newydd a’r holl fannau eraill y mae’n awyddus i lunio cytundebau â hwy.
Gyda llaw, mae’r Torïaid yn awgrymu eu bod yn mynd i allu cyfyngu ar fiwrocratiaeth. O ddifrif? Onid ydych yn deall unrhyw beth am yr undeb tollau? Rhaid i chi lenwi mwy o ffurflenni—ffurflenni gwlad tarddiad. Dyna eich awgrym.
Ar baragraff 2, grymuso pobl leol i wneud polisïau mewn ardaloedd gwledig, efallai yr hoffai arweinydd UKIP ddarllen fy nghynllun datblygu economaidd arfaethedig ar gyfer cefn gwlad Cymru, lle rydym yn galw am ddull o’r gwaelod i fyny at ddatblygu economaidd. Mae’n dweud y dylai penderfyniadau cynllunio mawr gael eu penderfynu’n lleol, yn enwedig mewn perthynas â ffermydd gwynt. Ond rhaid deall, er enghraifft, yn y Canolbarth, gyda datblygu grid trydan wedi’i atgyfnerthu i gynnal y ffermydd gwynt—lle cafodd hynny ei gynnig, a’i wrthod i bob pwrpas gan y boblobgaeth leol—fod canlyniadau go iawn i’r penderfyniadau hyn, fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru i Russell George ddoe. Nid oes pwynt cwyno am fod eisiau i ystâd ddiwydiannol greu swyddi os na allwch gael pŵer i mewn i’r ardal. Rwy’n credu bod angen i bobl feddwl yn galed ynglŷn â sut y maent yn mynd i symud o gwmpas yn y dyfodol pan fo’r newid hwn i gerbydau trydan, ond ni fydd digon o drydan i wefru’r cerbydau trydan hynny yng nghanolbarth Cymru.
Ar baragraff (b), ysgolion gwledig, mae’r Ysgrifennydd addysg wedi’i gwneud yn glir y bydd yn rhoi camau ar waith i ddiogelu ysgolion bach gwledig.
Ar baragraff (c), wrth gwrs bod angen hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy, ond ar ôl siarad yn ddiweddar ag adeiladwyr tai preifat, sy’n dweud wrthyf nad yw’n ymarferol iddynt yn economaidd i adeiladu mewn rhannau o gefn gwlad Cymru, mae angen i ni gael llawer gwell syniad o sut y mae’r farchnad yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru. Nid yw’r atebion yn syml; maent yn gymhleth.
Ar baragraff (d), rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai o faint, wrth gwrs, mae’n ymddangos fel datganiad hawdd iawn i’w gefnogi, ond rwy’n gwahodd Mr Hamilton i geisio dod o hyd i bediatregydd ymgynghorol i ddod i weithio yn ysbyty Llwynhelyg, neu feddyg teulu i ddod yn bartner ym Meddygfa Tŷ Ddewi. Rwy’n sicr y bydd y bwrdd iechyd lleol yn brathu eich llaw i ffwrdd os gallwch ddod o hyd i rywun.