Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 19 Medi 2017.
Prif Weinidog, pan gefais i gyfarfod â ffermwyr yn Rhymni yn ddiweddar—oes, mae ffermwyr yn Rhymni—fe wnaethom drafod nifer o faterion yn ymwneud â Brexit, a'i effaith bosibl ar yr economi wledig, ac yn groes i'r awgrymiadau yng nghwestiwn Neil Hamilton yn gynharach, un pryder a oedd ganddynt oedd eu hanallu i allu recriwtio llafur yn lleol—llafur achlysurol, llafur tymhorol—gan arwain at eu dibyniaeth ar ffrwd gyson o lafur mudol yr UE. A fyddech chi'n cytuno â mi fod angen i lafur tymhorol o'r UE wedi’i reoleiddio fod ar gael mewn unrhyw gytundeb ar symudiad pobl ar ôl Brexit?