Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, drwy'r hyfforddiant, wrth gwrs, yr wyf i wedi nodi eisoes y mae’r grŵp arweinyddiaeth wedi ei ddatblygu, ac yn ail, wrth gwrs, drwy'r cod ymarfer ei hun. Gwn fod y cydgysylltydd yn angerddol o ran sicrhau ein bod ni'n gyrru caethwasiaeth allan, hyd yn oed lle mae'n gudd, wrth gwrs, mewn rhai sefydliadau. Mae'n sôn am y sector gofal cymdeithasol. Nid oedd yn honni bod ganddi dystiolaeth, er tegwch, bod hynny’n digwydd, ond roedd hi'n dyfynnu’r hyn a allai fod yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cydgysylltydd i sicrhau bod Cymru, fel y dywedais, yn elyniaethus i gaethwasiaeth.