Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Medi 2017.
Prif Weinidog, tynnais eich sylw ychydig amser yn ôl at hanes y mewnfudwyr hynny sy’n cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant glanhau ceir. Nodais eu bod nhw’n gweithio am lai na £3.50 yr awr, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos—o dan amodau llafur caethweision i bob pwrpas. Eich ateb ar y pryd oedd nad oedd hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Wel, o gofio bod problem llafur caethweision yng Nghymru yn un sy’n tyfu—adroddwyd am 47 o achosion yn 2014, 71 yn 2015 a 124 o achosion yn 2016—onid yw'n ddyletswydd nawr ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau i ymyrryd, gan gynnwys ysgogi llywodraeth leol i archwilio'r posibilrwydd o gau'r cyfleusterau ysgeler hyn?