Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, mae’r grym hwnnw gan lywodraeth leol eisoes, wrth gwrs, o ran ei hymrwymiadau safonau masnach. Os oes gan yr Aelod dystiolaeth bod hynny'n digwydd, byddaf yn falch o edrych ar y dystiolaeth honno ac yna ei rhannu gyda’r awdurdod erlyn priodol. Mae'r hyn y mae'n ei ddisgrifio yn annerbyniol, ond mae'n hollbwysig bod tystiolaeth ar gael i allu bwrw ymlaen â hyn, yn y pen draw, neu gyda’r gobaith, wrth gwrs, o erlyniad llwyddiannus.