2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Medi 2017.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r tirlithriad diweddar yn ardal Pant-teg, Ystalyfera? (OAQ51011)
Rwy’n gwybod bod yna gyfarfod ar 22 Awst lle roedd swyddogion y Llywodraeth wedi ymuno â chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn ystyried y ffordd ymlaen. Byddwn ni, wrth gwrs, fel Llywodraeth yn ystyried unrhyw beth mae’r cyngor yn ei ddweud pan fyddant yn rhoi sylwadau i ni, fel cafodd ei gytuno yn y cyfarfod, rwy’n deall.
Diolch am yr ateb yna. Roedd rhai ohonom ni yn rhan o’r cyfarfodydd yna hefyd. Ond mae’n wir i ddweud bod y digwyddiad yma, y tirlithriad yma, wedi bod yn dipyn o ergyd i deuluoedd yn lleol, ac wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd hefyd yn ardal Ystalyfera. Gan fod hyn yn ddigwyddiad anarferol iawn, heb ei debyg, a wnewch chi fel Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cyhoeddus heddiw i roi help ariannol ychwanegol i gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddelio efo’r mater, yn ogystal ag unrhyw gronfeydd Ewropeaidd sydd yn agored i ni i ddelio efo’r sefyllfa unigryw yma?
Gallaf i ddeall, wrth gwrs, fel mae’r teuluoedd yn teimlo o achos y ffaith maen nhw’n gorfod wynebu rhywbeth fel hyn. Yn y cyfarfod ym mis Awst, y cytundeb oedd y byddai’r cyngor yn dod nôl i ni gyda’r manylion. Nid yw hynny wedi digwydd eto. Unwaith mae hynny’n digwydd, wrth gwrs, gallwn ni ystyried a thrafod y peth ymhellach.
Diolchaf i Dai Lloyd am ddod â'r cwestiwn hwn i chi y prynhawn yma, Prif Weinidog. Bu hanes o dirlithriadau yn y rhan arbennig honno o'm hetholaeth i. Mae'r perygl newydd yn deillio o dirlithriadau mewn ardaloedd yr ystyriwyd cynt eu bod yn rhai risg isel. Byddwch yn deall pryder yr aelwydydd y gofynnwyd iddynt adael eu cartrefi, a'r pryder a deimlir gan y gymuned ehangach, yn enwedig wrth i’r cyngor ailasesu'r perygl yn yr ardal yn gyffredinol. Byddem yn croesawu unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi, i'r gymuned a'r cyngor, i ddatrys y mater hwn, a hefyd, efallai, o gofio bod nifer o fuddiannau portffolio'r Llywodraeth yn rhan o hyn, i gael dull cydgysylltiedig o ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu.
Nid yw'n eglur eto beth fyddai natur y cymorth hwnnw, a dyna pam yr ydym ni’n edrych ymlaen at dderbyn y sylwadau gan y cyngor, er mwyn i ni ystyried hyn ymhellach. Ond cyn belled ag y mae’r bobl yno yn y cwestiwn, gallaf ddeall yn iawn eu bod nhw eisiau cael sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rydym ni’n awyddus i wneud hynny a byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor er mwyn cyflawni hynny.
Efallai bod maes lle gall Llywodraeth Cymru roi cymorth ar unwaith, a dyma fe: efallai y byddwch chi'n cofio, yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato'n gynharach, y daeth adroddiad annibynnol i'r amlwg a awgrymodd mai'r ardal sydd wedi’i heffeithio oedd y lleiaf tebygol o ddioddef tirlithriad neu lithriad, ac aeth natur yn groes i'r adroddiad hwnnw. Felly, efallai y bydd lle yma i Lywodraeth Cymru allu helpu Castell-nedd Port Talbot ddiffinio'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adroddiad newydd sy'n cael ei gomisiynu, er mwyn darganfod a yw'r 150 o gartrefi sydd o bosibl mewn perygl erbyn hyn mewn perygl mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n ychwanegol at y cymorth ariannol y mae Dai Lloyd wedi ei awgrymu. Felly, mae hwnnw'n gymorth penodol iawn yr wyf i’n credu y gallwch chi ei roi yn gynnar.
Rydym ni’n fodlon gweithio gyda'r cyngor, wrth gwrs, i weld pa gymorth y gallwn ni ei ddarparu o ran comisiynu unrhyw adroddiad newydd. Ac eto, rydym ni’n disgwyl sylwadau'r cyngor yn hynny o beth.