Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, rwy’n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, Simon Thomas, wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau cryf iawn—hanesyddol, diwylliannol ac economaidd—â Chatalonia ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyhoeddi datganiad. Rwy'n credu eich bod chi wedi deall y pwynt yn dda o ran y datblygiad y prynhawn hwn. Rwyf i hefyd yn credu ein bod ni’n nodi eich pwyntiau o ran beth yw ein polisïau arloesol o ran ariannu addysg uwch ac addysg bellach. Rydym ni’n nodi eich pwynt.