Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 19 Medi 2017.
Hoffwn i ddiolch i Adam Price am y geiriau hyfryd, caredig. Rwy'n siŵr y byddan nhw’n gwneud byd o les i mi; diolch yn fawr. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai rhywbeth i'w ddathlu ydyw, y rhyddid i fynegi ar y meinciau Llafur hyn. Rydym ni wedi cael ein hannog gan y Llywodraeth i gyfrannu at yr hyn y maen nhw’n ceisio'i wneud, ac nid wyf i erioed wedi cael fy annog gymaint i leisio barn fel gwleidydd etholedig.
Gyda hynny mewn golwg, rwy’n mynd i leisio fy marn. Mae gennyf i gwestiwn neu ddau am y strategaeth genedlaethol. Yn gyntaf, ar dudalen 25 mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol: mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned. A wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol? [Torri ar draws.] Ydy e'n ceisio dod o hyd i'r ddogfen? Mae’n sôn ar dudalen 25 am fuddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned.
A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried y sector cyhoeddus yn creu cartrefi gofal gan ddefnyddio adeiladau presennol neu adeiladau newydd, a chaniatáu i weithredwyr dielw bach, lleol eu rhedeg, gan felly roi pwyslais sylfaenol ar ofal cymdeithasol sylfaenol yn ein cymunedau?
O ran cynllunio, ar dudalen 5 mae'n dweud bod y system gynllunio iawn yn hollbwysig i gyflawni ein hamcanion yn y strategaeth hon.
Byddwn i’n dadlau, er gwaethaf Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a oedd yn croesawu creu cynlluniau datblygu strategol sydd eto i’w gweithredu, bod cynlluniau datblygu lleol yn amlygu anghydraddoldeb rhanbarthol yn y system gynllunio gyfredol; maen nhw’n fethedig. Rydym ni’n gweld drwy gynlluniau datblygu lleol gorddatblygiad y de, yn enwedig yn fy ardal i ar hyd goridor yr M4, a thanddatblygiad a diboblogi y gogledd. Byddwn i’n dadlau bod cynlluniau datblygu lleol ynghlwm yn llwyr â’r hyn sy'n ddichonadwy, a’r hyn a olygir gan ddichonadwy yw proffidiol. Mae angen i ni ystyried hynny a sut yr ydym yn newid hynny. Ac roedd tudalen 24 y ddogfen yn galonogol i mi, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn datgloi potensial BBaChau i adeiladu cartrefi.
Mae hynny'n gam calonogol iawn, ond un o'r pethau a fydd yn helpu busnesau bach a chanolig yw adfer safleoedd tir llwyd. A fyddai Llywodraeth Cymru felly yn ystyried adolygu polisi o ddarparu cymorth ar gyfer adferiad, a fyddai'n galluogi busnesau bach a chanolig i ddatblygu safleoedd tir llwyd, yn enwedig yn rhannau gogleddol yr ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli?
Ac yn olaf, mae croeso mawr i ymagwedd ranbarthol, yn enwedig os yw'n ddull sydd wedi’i seilio ar leoliad, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir gwneud hynny yn y cynllun economaidd sydd i ddod. Beth fydd yr olion traed rhanbarthol hynny ac a yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod gan lywodraeth leol y strwythur, a hefyd y sgiliau a'r wybodaeth i gyflwyno strategaethau economaidd lleol? Bydd, bydd y Bil llywodraeth leol yn datblygu strwythur, ond a all ef fod yn ffyddiog y bydd sgiliau a gwybodaeth hefyd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â hynny, yn enwedig o ran caffael, er enghraifft?