Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 19 Medi 2017.
Rydw i, yn fras, yn cydymdeimlo â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn dymuno’i gyflawni yn y pen draw, ond credaf fod hyn yn gwneud môr a mynydd o bethau. Mae’n eithaf rhyfeddol fod arweinydd Plaid Cymru yn sôn am gyfyngu ar bwerau'r Cynulliad hwn neu eu lleihau. Nid oes gennym y pwerau yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma, ar hyn o bryd, ac nid oedd unrhyw gŵyn o du Plaid Cymru na'r rhan fwyaf o'r Blaid Lafur, yr SNP, ac yn sicr nid y Rhyddfrydwyr, pan anfonwyd y pwerau a oedd yn arfer bod gan Senedd y Deyrnas Unedig etholedig boblogaidd i Frwsel i'w penderfynu gan gomisiynwyr anetholedig, ac nad oes fawr ddim rheolaeth ddemocrataidd ganddyn nhw o gwbl ar eu pŵer. Felly, mewn gwirionedd, i mi mae Brexit yn ymwneud, ac erioed wedi ymwneud, ag adfer rheolaeth ddemocrataidd dros benderfyniadau technocrataidd a gaiff eu gwneud gan bobl na allwch chi hyd yn oed eu henwi, yn aml, heb sôn am eu hethol neu eu gwrthod.
Felly, dylem groesawu hyn fel adfywiad seneddol, gan gynnwys hon. Ac, ydw, rwy’n cytuno'n gryf â'r Prif Weinidog y dylai'r holl bwerau yn y meysydd datganoledig sydd gennym ar hyn o bryd, ond y mae’r pwerau ym Mrwsel ar hyn o bryd, ddod i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn. Rwyf wedi dweud hynny lawer tro yma, a bydd ganddo fy nghefnogaeth gref i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond, wrth gwrs, mewn pleidiau eraill, yn benodol Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr, ac, yn wir, yr SNP hefyd, gwelir polisi o awydd i wrthdroi'r broses Brexit gyfan. Ac mae creu arf newydd i allu rhwystro hyn, er gwaethaf canlyniad y refferendwm fis Mehefin y llynedd, i mi, yn gwbl annerbyniol. Er nad wyf yn credu bod Theresa May wedi trafod cysylltiadau â'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd synhwyrol iawn, ac rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog y bu gormod o agwedd unbenaethol heb ymdrech ddigonol i ymgysylltu a dwyn perswâd, nid wyf yn credu ei bod yn werth talu'r pris y gallai fod yn rhaid i ni ei dalu os ydym yn cychwyn math o ryfel ffosydd yn y Senedd ynglŷn â’r broses i adennill pwerau nad oes gennym ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ystyried bod hyn yn ymosodiad ar y broses ddatganoli mewn unrhyw ffordd.
Yn y datganiad, cyfeiriodd y Prif Weinidog at hepgor siarter hawliau sylfaenol. Cofiaf yn dda, yn y flwyddyn 2000, pan drafodwyd hyn, dywedodd Llywodraeth Blair ar y pryd y byddai'n rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeddfu ar gyfer hynny. Ac wrth gwrs, dywedodd Keith Vaz, yn gofiadwy iawn, nad oedd ganddo ddim mwy o bŵer cyfreithiol na chopi o'r 'Beano'. Ac eto, erbyn hyn, mae hyn yn cael ei ddyrchafu yn rhywbeth o bwys mawr. Ac, ydw, rwy’n deall pam mae’r Aelodau'n dweud bod pethau fel hawliau cyflogaeth yn hanfodol bwysig, ond, ar ddiwedd y dydd, os ydym ni’n credu mewn democratiaeth, mae'n rhaid i ni dderbyn y dylai fod gan seneddau yr hawl i wneud pethau nad ydym ni'n eu hoffi. Efallai na fyddwn yn credu eu bod yn synhwyrol iawn yn gwneud hynny, ond, yn y pen draw, y prawf yw: a allwch chi gael y bobl i gefnogi eich polisïau ger y blwch pleidleisio? Yn fy marn i, ni ddylai barnwyr neu weision sifil, neu, yn wir, gyrff cyfreithiol, dynnu pŵer oddi ar y bobl i benderfynu pa newidiadau deddfwriaethol y dylid neu na ddylid eu rhoi ar waith, ac rwyf i’n credu bod yr ymgais, a ddisgrifiwyd gan arweinydd Plaid Cymru foment yn ôl, i geisio nodi meysydd y gyfraith na ellir byth eu newid, oherwydd eu bod yn mynd yn rhai sylfaenol, yn groes i'r broses ddemocrataidd gyfan. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, ydw, rwy’n cydymdeimlo ag ef yn yr hyn a ddywedodd. Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir, mewn gwirionedd, o ran ei amcan, ond rwy’n hynod bryderus ynghylch y modd y mae'n ceisio cyflawni’r amcan hwnnw, ac felly byddwn ni’n edrych yn ofalus iawn ar y gwelliannau hyn cyn i ni benderfynu a fyddwn ni'n eu cefnogi ai peidio.