Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 19 Medi 2017.
Mae lleihau lefelau ysmygu yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Yn 2012, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco. Pennodd y cynllun darged i leihau lefelau ysmygu o 23 y cant yn 2010 i 16 y cant erbyn 2020. Roedd hefyd yn cyfleu gweledigaeth o gymdeithas ddi-fwg i Gymru lle caiff y niwed a achosir gan dybaco ei ddileu. Rwy'n falch o ddweud bod cynllun 2012 wedi arwain at ystod o welliannau iechyd i bobl Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau effaith mwg ail-law, mwy o gefnogaeth i'r rhai sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu, a gweithredu er mwyn helpu i atal pobl rhag ifanc rhag dechrau ysmygu. Mae’r gyfradd ysmygu wedi gostwng i 19 y cant. Mae hyn yn galonogol, ond mae rhagor o waith i’w wneud. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol os ydym ni’n bwriadu cynnal y momentwm hwn er mwyn cyflawni ein targed o 16 y cant ymhen dim ond tair blynedd.
Gan gofio hynny, sefydlwyd y bwrdd strategol rheoli tybaco y llynedd. Mae'r bwrdd, sydd dan gadeiryddiaeth y prif swyddog meddygol, a'i is-grwpiau ar gyfer rhoi'r gorau iddi, atal a lleihau effaith ysmygu, wedi gweithio'n galed i ddatblygu a chwblhau'r cynllun cyflawni hwn, a fydd yn arwain y gweithgarwch hyd at 2020, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y gwaith hwnnw.
Mae'r cynllun yr wyf yn ei lansio heddiw yn nodi'r camau gweithredu unigol y bydd Llywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid yn eu cymryd i hybu gweithgarwch a'n helpu ni i gyrraedd y targed a'r weledigaeth a nodir yng nghynllun 2012. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bydd yn cael ei gefnogi gan bwerau newydd sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i'n galluogi ni i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i rai lleoliadau awyr agored, megis tiroedd ysbytai a mannau lle mae plant yn chwarae. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i gyflwyno mesurau eraill i annog pobl i beidio â defnyddio tybaco a gwella canlyniadau iechyd, megis cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr o gynhyrchion tybaco a nicotin. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n drosedd i roi cynhyrchion tybaco neu nicotin i bobl dan 18 oed wrth ddefnyddio gwasanaethau casglu a dosbarthu i gartrefi.
Bydd y camau gweithredu yn y cynllun cyflawni yn cefnogi pobl i roi'r gorau i ysmygu ac yn helpu i atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Mae nifer o gamau hefyd wedi'u cynnwys i leihau cysylltiad ag ysmygu, ac felly cael gwared ar y canfyddiad bod ysmygu yn ymddygiad arferol, bob dydd. Nod y camau hyn a'r rheoliadau newydd i ymestyn y gwaharddiad ysmygu i ardaloedd y mae plant yn eu defnyddio’n aml yw amddiffyn plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn helpu i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.
Ein bwriad yw bod gan bobl uchelgais i fyw yn ddi-fwg a bydd y cynllun yn cael ei lansio heddiw o dan ein brand trosfwaol Dewiswch fod yn Ddi-fwg. Datblygwyd y brand fel un a fydd yn cael ei gydnabod a'i ddefnyddio ar gyfer pob elfen o waith rheoli tybaco yng Nghymru. Mae ei enw yn cyfleu’n glir iawn yr hyn y mae'n ei olygu. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb ac yn sicrhau bod y bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch o lansio ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, sef y gwasanaeth cyntaf i weithredu o dan ein brand newydd. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i smygwyr gael gafael ar help i roi'r gorau i ysmygu. Mae dros 40 y cant o’r smygwyr yn gwneud o leiaf un cais i roi’r gorau iddi bob blwyddyn, felly mae'n bwysig bod cynifer â phosibl o'r rhai hynny yn gofyn am help i roi'r gorau iddi gan fod hyn yn cynyddu’n sylweddol y posibilrwydd i’w hymgais i roi'r gorau iddi fod yn llwyddiannus.
Mae'r cynllun cyflawni hwn yn gyson â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a datblygwyd drwy fabwysiadu'r dulliau o weithio sy'n sail i'r Ddeddf. Mae hefyd yn un o'r ymatebion i'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Ei nod yw gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru a rhoi mwy o bwyslais ar atal.
Yn ystod oes y cynllun, bydd ein bwrdd strategol ar reoli tybaco a'i is-grwpiau yn parhau i ganolbwyntio ar gynnydd a byddant ar wyliadwriaeth am gynhyrchion tybaco newydd a chynhyrchion sy’n datblygu, sy'n bygwth yr hyn yr ydym wedi gweithio mor galed i'w gyflawni yng Nghymru ers cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu 10 mlynedd yn ôl. Bydd y bwrdd yn sicrhau ein bod yn parhau i gynllunio y tu hwnt i 2020 a bydd yn gosod nodau pellach i sicrhau cymdeithas ddi-fwg.