Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 19 Medi 2017.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Croesawaf y cynllun cyflawni. Rwy'n falch ei fod yn parhau i osod nifer o dargedau uchelgeisiol i leihau cyfraddau ysmygu. Rwy’n credu ei bod hi’n dal i fod yn gywilyddus y bydd hyd at ddwy ran o dair o smygwyr hirdymor yn marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau wedi dweud yn blwmp ac yn blaen mai sigaréts yw yr unig gynnyrch defnyddwyr cyfreithiol a fydd, pan gaiff ei ddefnyddio fel y bwriedir, yn lladd hanner yr holl ddefnyddwyr hirdymor.
Felly, rwy’n eich llongyfarch ar gyrraedd y targed o ostwng y defnydd i 19 y cant. Hoffwn ddeall, Gweinidog, a ydych chi o’r farn ei bod yn realistig y bydd y targed o 16 y cant yn cael ei gyrraedd erbyn 2020, gan fy mod yn nodi yn eich cynllun eich bod yn dweud y bydd hyn yn darged heriol iawn. Ac o ystyried hyn, byddai gennyf ddiddordeb mawr i glywed eich barn ynghylch pa un a ydych chi'n ystyried y gellir cyrraedd nod Cancer Research UK o weld cyfradd ysmygu sy’n llai na 5 y cant ar draws yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol erbyn 2035 yng Nghymru, oherwydd nid oes pwrpas i ni osod targed hollol amhosibl, ond efallai ei bod yn rhywbeth y gallwn ni anelu ato.
Rydych chi’n siarad yn eich datganiad am y rhaglen Helpa Fi i Stopio, ac er hynny yn 2016-17, dim ond 2.9 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a gafodd eu gweld gan wasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, ac ni chyflawnodd unrhyw fwrdd iechyd y targed. Yn wir, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dim ond 1.3 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a wnaeth gais i roi'r gorau iddi. Gweinidog, byddai gennyf ddiddordeb cael gwybod pam yr ydych chi’n meddwl ei bod wedi cymryd cymaint o amser i'r byrddau iechyd ddod i gefnogi hyn. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i edrych ar y targedau eto neu i ddarparu adnoddau ychwanegol i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy?
Rwy'n deall bod ymgyrchoedd cyfryngau torfol yn effeithiol iawn ac rydych chi'n siarad cryn dipyn am hynny yn y cyflwyniad, ond mae ffigurau Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau ysmygu ar draws siroedd Cymru. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr adnodd yn cael ei dargedu at y meysydd lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf? Er ei bod yn ffasiynol iawn, ac rwy’n gwybod bod rhyw ran o'r boblogaeth yn hoff iawn o’r cyfryngau cymdeithasol, nid yw nifer fawr o'r bobl sy'n ysmygu yn gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol, nid ydyn nhw o reidrwydd yn gallu cael gafael ar gyfrifiaduron, neu maen nhw’n byw mewn ardaloedd a chysylltiad rhyngrwyd gwael. Felly, tybed a wnewch chi roi gwybod i ni sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r carfannau hynny yn cael eu hanwybyddu.
Dau beth yn olaf. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu mwy o lawer na'r boblogaeth gyffredinol. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith—oherwydd ni welais unrhyw rai yn y cynllun cyflawni—i geisio addysgu'r bobl hynny am yr angen i roi'r gorau i ysmygu neu geisio lleihau faint y maen nhw’n ei ysmygu? Gan fod y nifer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n ysmygu yn sylweddol uwch. A’r ffigurau eraill a oedd yn fy synnu'n fawr oedd y ffigurau ar gyfer mamau beichiog sy’n ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd. Dywed y cynllun cyflawni nad yw'r data ar gael ar gyfer yr is-grŵp hwn, ond cyhoeddodd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata y llynedd yn dangos bod dros 18 y cant o famau yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, ac roedd anghysondebau ar draws y byrddau iechyd ac ar draws y ffin economaidd-gymdeithasol. Felly, tybed, Gweinidog, pa gynlluniau sydd gennych chi i fynd i'r afael â'r ddau grŵp hynny.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dros yr haf, Gweinidog, fe wnes i gefnogi galwadau i swyddogion iechyd y DU ystyried rheolau newydd sy'n gorfodi gostwng lefel y nicotin mewn cynhyrchion tybaco i lefelau di-gaethiwus yn dilyn cyhoeddiad am ymgynghoriad nodedig yn yr Unol Daleithiau gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud rhywbeth radical i geisio atal y felltith o ysmygu, a hoffwn ofyn am eich barn ar fenter o’r fath. Os ydych chi'n credu y byddai’n werthfawr bwrw ymlaen â rhywbeth felly, a fyddai modd i chi geisio cysylltu â swyddogion yr adran iechyd yn San Steffan i weld a allwn edrych ar ddeddfwriaeth gynhwysfawr a fyddai’n ceisio gwneud rhai o'r cynhyrchion gwenwynig hyn yn llai gwenwynig i'r rhai hynny sy’n dewis eu defnyddio? Diolch.