Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 20 Medi 2017.
Sut y gallwch alw eich hun yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd pan fo’ch Llywodraeth wedi rhoi trwydded i ganiatáu i ddeunydd gael ei garthu o’r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point a’i ddympio yn nyfroedd Cymru y tu allan i Gaerdydd? Yn waeth na hynny, ni chynhyrchwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol gan gorff gwarchod amgylcheddol Cymru. Nid oes unrhyw ddos o ymbelydredd yn dderbyniol i iechyd pobl. Felly, mae’n anodd credu y buasech yn caniatáu i ddeunydd o safle niwclear—niwclear—gael ei ddympio yn nyfroedd Cymru. Felly, pam rydych chi’n cymryd y risg enfawr hon? Ac a wnewch chi ddirymu’r drwydded hyd nes y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal astudiaeth lawn a phriodol o’r deunydd a allai fod yn ymbelydrol?