<p>Asesiadau o Effaith Amgylcheddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:55, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ni allaf wneud sylwadau ar broses penderfyniad penodol a wnaed flynyddoedd yn ôl, ond gallaf roi sicrwydd i chi fod pob cais am drwydded forol yn cael ei ystyried yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a’r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007. Mae’r rheoliadau’n darparu gweithdrefnau i bennu’r angen am asesiad o effaith amgylcheddol ar gyfer y prosiect, ac rwy’n deall bod trwydded forol ddilys ar waith, a bod yna amodau y mae angen i ddeiliad y drwydded gydymffurfio â hwy cyn y gellir cyflawni unrhyw waith gwaredu.