Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Medi 2017.
Ni allaf roi ateb penodol i chi o ran y ffigur, ond gwyddom y gall plant ysgol Cymru fod yn agored i lefelau uchel o lygredd pan fyddant yn teithio i ac o ysgolion, lawn cymaint â phan fyddant ar dir yr ysgol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi dechrau ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i helpu i lunio’r gwaith ar fframwaith parthau aer glân i Gymru, ac mae hynny’n cael ei wneud hefyd drwy un o’r is-grwpiau ar fy mwrdd crwn gweinidogol ar Brexit.