<p>Asesiadau o Effaith Amgylcheddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:57, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Dywed cyngor Abertawe fod asedau naturiol yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd a’u bod yn bwysig ar gyfer llesiant, ac na ddylai manteision o’r fath gael eu peryglu gan ddatblygiad newydd nad yw’n diogelu na’n gwella ased naturiol ac ecosystem yr AHNE. A allwch ddweud wrthyf pam nad yw’r AHNE yn ymgynghorai statudol â rhwymedigaeth i ddarparu tystiolaeth mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer tir sy’n ffinio â thir AHNE? Mae hwn wedi dod yn gwestiwn perthnasol, bellach, i fy etholwyr yn y Gŵyr, lle mae’r cynllun datblygu lleol yn rhagweld y bydd 20,000 o dai yn cael eu hadeiladu. Diolch.