<p>Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:02, 20 Medi 2017

Wrth gwrs, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu gwrthwynebiad i’r syniad bod y Llywodraeth yn Llundain, fel y mae eu Hysgrifennydd Gwladol nhw wedi dweud yn barod, yn mynd i gymryd yr holl bwerau dros daliadau amaethyddol. Ond a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael y gefnogaeth fwyaf helaeth posibl yng Nghymru i amddiffyn datganoli dros bwerau, dros daliadau amaethyddol, ac yn gwneud addewid, pe bai’r pwerau yna yn dod i ni, na fyddai llai o arian yn mynd mewn i ‘subsidy’ amaethyddol?