<p>Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:01, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod, ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cyntaf i Dawn Bowden fod fy swyddogion i fod i gyfarfod eto gyda’r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Mae’r cyfarfodydd hynny’n parhau. Yn amlwg, maent wedi cyfarfod â hwy eisoes, a chredaf fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn amlwg yn cydnabod y problemau sy’n wynebu llawer o’r cwsmeriaid y maent wedi bod yn ymdrin â hwy. Maent eisoes wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd, megis sefydlu hyrwyddwr defnyddwyr, er enghraifft. Maent wedi datblygu pecyn gofal eiddo ar gyfer deiliaid tai. Ond rwy’n awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n gyflym iawn i’w ddatrys.