Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch. Wel, yng nghyd-destun proses y gyllideb a briff ‘cyflwr Cymru’ diweddaraf Sefydliad Bevan, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Gorffennaf, ac a ddywedai mai Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi ond dwy yn y DU, ar ôl Llundain a gorllewin canolbarth Lloegr, gydag ‘ychydig iawn o newid yn y brif gyfradd’, sut rydych yn ymateb i’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Participatory Budgeting: An Evidence Review’? Roeddent yn dweud mai Porto Alegre ym Mrasil oedd man geni cyllidebu cyfranogol, gan ddweud bod y broses yno wedi newid y berthynas sylfaenol rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth, wedi gwella gweithrediad y llywodraeth ac wedi arwain at wasanaethau cyhoeddus a seilwaith gwell.
Ond yng Nghymru hyd yn hyn, mae’r defnydd o gyllidebu cyfranogol wedi bod yn fwy cymedrol, ac mae’r effaith, o ganlyniad i hynny, wedi bod yn llai.
Ac maent yn argymell, yng Nghymru, y gallai fod yn ddefnyddiol canolbwyntio yn y tymor byr ar osod sylfeini cyllidebu cyfranogol mewn cyllidebau yn y dyfodol, ochr yn ochr â’r defnydd o fathau eraill o ymgysylltu neu ymgynghori sy’n dangos bwriad i hybu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ac ymwneud y cyhoedd yn y penderfyniadau hynny. Pa ystyriaeth a rowch i’w canfyddiadau?