<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:33, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fod eu sylwadau, yn ôl yr arfer, yn ddiddorol iawn. Buaswn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn. Drwy roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith, rydym wedi gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu â chymunedau a phawb sydd â diddordeb. Felly, buaswn yn anghytuno â’r ffaith fod Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth; mewn gwirionedd, rydym wedi deddfu cyn i unrhyw wlad arall wneud hynny.