Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 20 Medi 2017.
Credaf fod y mater yn ymwneud mwy â’r ffaith fod Porto Alegre, sydd wedi arwain y gwaith hwn, yn amlwg ar y blaen yn hyn o beth, ac mae ganddynt ganlyniadau mesuradwy y gellir edrych arnynt. A rhan o agenda ehangach yw hyn, agenda y gobeithiaf y gallwch ei hystyried a’i chroesawu.
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â thai yng nghyd-destun cymunedau. Fel y gwyddoch, arwyddodd Cartrefi Cymunedol Cymru gompact gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fis Rhagfyr diwethaf, compact a oedd yn seiliedig ar ymrwymiad i gymdeithasau tai weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r ddarpariaeth orau o dai ar gyfer yr ardal leol. Pa gyfrifoldeb cyfatebol sydd gan yr awdurdodau lleol i weithio gyda chymdeithasau tai i sicrhau bod eu hadnoddau hwythau’n sicrhau’r ddarpariaeth orau o ran tai cymdeithasol ar gyfer yr ardal leol?