Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae caethwasiaeth fodern yng Nghymru ar gynnydd. Yn 2015, cafwyd 134 o atgyfeiriadau’n ymwneud â dioddefwyr caethwasiaeth posibl. Dangosai hyn gynnydd o dros 91 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’r ffigur go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch oherwydd cyfrinachedd a’r rheolaeth dynn sydd gan y troseddwyr ar eu dioddefwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern ac i sicrhau bod awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, a sefydliadau gwirfoddol yn gallu adnabod yr arwyddion y gallai rhywun fod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yng Nghymru?