<p>Caethwasiaeth Fodern</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:39, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni edrych ar gwestiwn yr Aelod yn ofalus, ac mewn gwirionedd, gallem ystyried hyn yn dipyn o lwyddiant yma yng Nghymru, lle rydym yn nodi’r materion sy’n ymwneud â chaethwasiaeth ac yn dal y troseddwyr ac yn eu herlyn, a dyna’n hollol y dylem ei wneud. Dyna pam, yn fy marn i, fod cynnydd yn yr achosion sy’n cael eu canfod. Ni yw’r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, a ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Buaswn yn annog rhannau eraill o’r DU i fynd ati i geisio penodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth oherwydd, fel gwlad, gallwn gyflawni hyn yn llawer gwell. Mae’r Aelod yn gywir ynglŷn â gwneud yn siŵr y gall asiantaethau allweddol, gweithwyr allweddol, nodi’n gynnar lle y credir bod pobl yn cael eu caethiwo a bod ein hasiantaethau cudd-wybodaeth a rhifau ffôn cymorth ar gael i unigolion adrodd ynglŷn â hyn, os dônt i sylw unigolion.