Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, ni allaf feddwl am air y mae’r Aelod wedi ei ddweud yn y fan honno y cytunaf ag ef yn ei gylch. Y ffaith amdani yw nad yw hon wedi bod yn drosedd gudd—mae caethwasiaeth wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, a’r ymerodraeth Brydeinig a ddechreuodd lawer o hyn yn y lle cyntaf, a ni yw’r rhai a ddylai roi diwedd ar y cyfan yn awr. Dyna pam ein bod wedi penodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Nid wyf yn credu bod gan fewnfudo torfol, fel y soniodd yr Aelod amdano, unrhyw beth i’w wneud â’r gaethwasiaeth a welwn heddiw. A dweud y gwir, nid wyf hyd yn oed yn cydnabod safbwynt yr Aelod fod gennym fewnfudo torfol direolaeth; mae’r Aelod yn anghywir i awgrymu hynny.