<p>Caethwasiaeth Fodern</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:40, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Tan yn ddiweddar iawn, prin iawn oedd yr achosion o gaethlafur yn y DU. A yw’n wir i ddweud felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mai caethlafur yw canlyniad uniongyrchol mewnfudo torfol direolaeth? Mae nifer y menywod a phlant y camfanteisir arnynt yn rhywiol wedi cynyddu’n ddramatig dros y ddau ddegawd diwethaf—wedi’u rheoli gan gangiau o fewnfudwyr yn camfanteisio ar weithwyr mudol ym mhob achos bron. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rheolaethau ffin nad ydynt yn bodoli i bob pwrpas, a ddaeth yn sgil hawl pobl i symud yn rhydd, wedi gwaethygu’r broblem wirioneddol ddieflig hon yn ein gwlad?