Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 20 Medi 2017.
Gweinidog, pan oeddech yn rhoi eich tystiolaeth i’r pwyllgor rai misoedd yn ôl, ac yna fe ddaeth yr Ysgrifennydd addysg i mewn yn syth ar eich ôl, roedd yn ymddangos bod ychydig o ddryswch ynglŷn â sut yn union y byddai’r arian yn llifo o amgylch y system i ddarparu’r ddarpariaeth hon pan gaiff ei chyflwyno’n gyffredinol yn sgil y cynllun peilot. Sut ydych chi’n mynd â hyn ar draws y Llywodraeth, oherwydd, o’r hyn a ddeallais o’r dystiolaeth a roesoch, roeddech yn disgwyl i’r ysgol wneud rhywfaint o’r ddarpariaeth? Yn amlwg, heb arian ychwanegol ar gael, mae darparu’r ddarpariaeth honno’n mynd i fod yn heriol iawn i lawer o ysgolion. Felly, a ydych wedi nodi o ba linellau yn y gyllideb y bydd yr arian hwn yn dod ac yn wir, a allwch gadarnhau heddiw lle bydd yr arian hwnnw yn y dyfodol?