Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 20 Medi 2017.
Mae rhan o’r broses cynllun peilot yn ymwneud â dysgu sut y bydd yr arian hwn yn llifo. O’r chwe model, mae saith awdurdod lleol eisiau cynllun peilot ar y cyd. Ceir pob math o fodelau darparu gwahanol: mae rhai mewn ysgolion yn unig ac mae rhai mewn lleoliadau ysgol a lleoliadau preifat. Felly, rydym yn deall beth sy’n gweithio orau i rieni, ac yn y pen draw, dyna rydym yn ceisio ei egluro: beth sy’n gweithio i deuluoedd ledled Cymru?
Ni fuaswn yn poeni am sefyllfa ariannol y cynllun hwn. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno. Rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau EM. Mewn gwirionedd, gall yr Aelod fod yn ddefnyddiol i ni yn ogystal. Byddaf yn cysylltu â’r Aelod mewn perthynas ag ymdrin â Chyllid a Thollau EM. Mae gennym ddeddfwriaeth yr ydym yn debygol o’i chyflwyno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu defnyddio’r pecyn data y mae Cyllid a Thollau EM yn ei ddefnyddio ar gyfer teuluoedd yng Nghymru, er mwyn cyflwyno’r pecyn wrth i ni symud ymlaen. Buasai o gymorth mawr pe bai’r Aelod yn gallu bod yn gefnogol yn y broses honno.