<p>Digartrefedd ar Ynys Môn</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:47, 20 Medi 2017

Diolch. Rydw i wedi cyfarfod, y mis yma, efo staff a rheolwyr rhai o’r cyrff ac elusennau sy’n gwneud gwaith rhagorol yn Ynys Môn yn mynd i’r afael ac yn delio â digartrefedd, gan gynnwys y Wallich a Digartref Môn a Gorwel hefyd. Yn anffodus, mae gofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy efo llai a llai o adnoddau yn cyrraedd at y pwynt rŵan lle mae’n gwbl amhosib i’w gyflawni, ac mae bygythiad o doriad i gyllid Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru yn berig o ddadwneud a thanseilio llawer o’r gwaith da sydd yn ac wedi bod yn cael ei wneud yn Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru. A ydy’r Gweinidog yn cydnabod hynny ac yn derbyn os na wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i’r cyrff yma, y byddan nhw’n gwneud cam gwag ac yn gwasgu ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni?