<p>Digartrefedd ar Ynys Môn</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:48, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n cytuno â phryderon yr Aelod ynglŷn â sut y mae cyllideb Cefnogi Pobl yn helpu llawer o bobl ddigartref, nid yn unig yn ei etholaeth ei hun, ond ledled Cymru. Ond nid oes unrhyw sicrwydd ar y pwynt hwn yng nghamau’r gyllideb y gallaf ddiogelu Cefnogi Pobl neu elfennau eraill o gyllid yn fy nghyllideb. Rydym yn wynebu setliad ariannol anodd iawn, a bydd yn rhaid i mi wneud y penderfyniad hwnnw wrth i ni symud tuag at 3 Hydref, ond rwy’n siŵr fy mod wedi gwrando’n ofalus iawn ar bryderon y lobi sylweddol sydd o blaid Cefnogi Pobl.